13.3 C
Llanelli
Thursday, September 24, 2026
Home Events Cyfle unwaith mewn oes i ymuno â chôr ieuenctid ar daith i...

Cyfle unwaith mewn oes i ymuno â chôr ieuenctid ar daith i Alabama

0
521
Canwn Glod Urdd x Alabama
Canwn Glod Urdd x Alabama

Mae Urdd Gobaith Cymru bellach yn gwahodd ymgeiswyr i ymuno â chôr ieuenctid newydd sbon – Côr yr Urdd – fydd yn teithio i Alabama yn 2022.

I nodi canmlwyddiant y mudiad yn 2022 mi fydd Côr yr Urdd yn cael ei ffurfio er mwyn cynnig cyfle unwaith mewn oes i griw o bobl ifanc ddod at ei gilydd a pherfformio yn Alabama.

Mae Côr yr Urdd yn agored i bob unigolyn rhwng 18 a 25 oed. Nid oes angen bod yn aelod o gôr ar hyn o bryd, nac ychwaith i fod â phrofiad blaenorol o ganu mewn côr. Yr oll sydd angen i ymgeiswyr wneud ydi llenwi ffurflen gais ar-lein a chyflwyno recordiad byr erbyn y 14eg o Hydref 2021.

Cyhoeddwyd eisoes bod 16 o fuddugwyr gŵyl ddigidol Eisteddfod T eleni yn cael y cyfle i ymuno â’r côr.

Daw’r cyfle yn sgil partneriaeth drawsatlantig yr Urdd gyda Phrifysgol Alabama ym Mirmingham (University of Alabama at Birmingham). Yn ogystal â threfnu fod Côr yr Urdd yn cael perfformio mewn cyngherddau yn Alabama ac yn dysgu mwy am y traddodiad canu gospel a hanes hawliau sifil yn Alabama, y bwriad yw i Côr Gospel UAB i berfformio yn ystod Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2022. 

Ffurfiwyd perthynas rhwng Cymru a’r gymuned Affro Americanaidd ym Mirmingham, Alabama dros hanner canrif yn ôl yn dilyn ymosodiad terfysgol gan y Klu Klux Klan ar Eglwys y Bedyddwyr, 16th Street. Fel arwydd o gefnogaeth ac undod rhoddwyd ffenestr lliw i’r eglwys gan bobl Cymru, a hyd heddiw caiff ei hadnabod fel y ‘Wales Window’.

Bu i ymweliad swyddogol Siân Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd, a Gweinidog Addysg Cymru ar y pryd Kirsty Williams â’r eglwys a phobl ifanc Birmingham, Alabama yn 2019 gryfhau’r berthynas hon. O ganlyniad, roedd trefniadau taith Côr Gospel Prifysgol Alabama i ymweld â Chymru ac Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2020 yn cael eu cwblhau pan fu’n rhaid gohirio’r cyfan wrth i Covid-19 ledaenu ar draws

Ond yn wyneb heriau’r pandemig, ffurfiwyd côr gospel rhithiol ar y cyd rhwng rai o aelodau’r Urdd a myfyrwyr UAB, ac i ddathlu Diolchgarwch ym mis Tachwedd 2020 daethant at ei gilydd i ganu yn y Gymraeg am y tro cyntaf, er mwyn rhyddhau addasiad o ‘Every Praise’ gan Hezekiah Walker, sef ‘Canwn Glo

Wrth i’r Urdd nesáu at ei chanmlwyddiant yn 2022 mae gan y mudiad gynlluniau uchelgeisiol i sicrhau bod Cymru’n cael effaith gadarnhaol a chodi ymwybyddiaeth mwy o bobl am Gymru, i gynnig profiadau rhyngwladol i bobl ifanc, i ddathlu cyfoeth diwylliannol Cymru yn ogystal â rhannu arfer da gyda chysylltiadau rhyngwladol yn sgil llwyddiant cynyddu’r defnydd, hyder a mwynhad o iaith leiafrifol.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.