18.4 C
Llanelli
Thursday, August 27, 2026
Home Newyddion Lle Y Gweinidog Materion Gwledig yn nodi amserlen ar gyfer cymorth i ffermydd...

Y Gweinidog Materion Gwledig yn nodi amserlen ar gyfer cymorth i ffermydd yn y dyfodol

0
323
RuralWales 2
RuralWales 2

Welsh Government

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths, wedi amlinellu’r camau nesaf i gyflwyno system newydd o gymorth i ffermydd a fydd yn gwobrwyo ffermwyr sy’n cymryd camau i ymateb i’r argyfwng hinsawdd ac i wrthdroi dirywiad bioamrywiaeth.

Bydd y Cynllun Ffermio Cynaliadwy newydd yn elwa i’r eithaf ar bŵer amddiffynnol natur drwy ffermio a bydd yn allweddol i ddiogelu’r amgylchedd ar gyfer y genhedlaeth hon a chenedlaethau’r dyfodol.

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi ymgysylltu â thros 2,000 o ffermwyr a rhanddeiliaid yng ngham cyntaf y broses o gyd-gynllunio’r cynllun newydd a bydd y cam nesaf yn digwydd yn ystod haf 2022.

Mae’r Gweinidog wedi datgelu y bydd amlinelliad o’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn cael ei gyhoeddi y flwyddyn nesaf a bydd hyn yn cynnwys y camau y gofynnir i ffermwyr eu cymryd. Bydd dadansoddiad o’r gost amcangyfrifol i’r busnes fferm a’r sector ehangach o’u cyflawni a’r manteision amgylcheddol dilynol hefyd yn cael ei gyhoeddi er mwyn galluogi ffermwyr i roi adborth gwybodus.

Cynhelir ymgynghoriad terfynol ar fanylion y cynllun, a’r broses o drosglwyddo i’r cynllun newydd, yng ngwanwyn 2023.

Bydd ymgysylltu â ffermwyr drwy raglen allgymorth ar y Cynllun terfynol yn digwydd y flwyddyn ganlynol.

Mae disgwyl i’r cynllun agor ym mis Ionawr 2025.

Wrth siarad yn y Senedd, dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths: “Fel y nodwyd yn ein Rhaglen Lywodraethu, mae mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur yn flaenoriaeth i’r Llywodraeth hon.

“Amlinellodd y Cwnsler Cyffredinol ein rhaglen ddeddfwriaethol uchelgeisiol ar 6 Gorffennaf. Cadarnhaodd y Rhaglen hon y byddwn yn cyflwyno Bil Amaethyddiaeth newydd ym mlwyddyn gyntaf y Senedd. Bydd hwn yn ddarn uchelgeisiol o ddeddfwriaeth a fydd yn diwygio degawdau o gymorth i ffermydd gan yr UE ac yn cynrychioli newid sylweddol i’r sector.

“Mae papur Gwyn Amaethyddiaeth (Cymru) yn nodi ein cynigion i gefnogi ffermwyr fel y gallant fabwysiadu dull cynaliadwy. Bydd hyn yn sicrhau dyfodol hirdymor i ffermio sy’n cydnabod ei bwysigrwydd i gymdeithas yng Nghymru.

“Mae’r sector ffermio wedi wynebu sawl her dros y blynyddoedd diwethaf ac rydym yn gwbl benderfynol o gefnogi ffermwyr i addasu i newidiadau yn y dyfodol.

“Rwyf wedi nodi o’r dechrau’n deg y byddwn yn gweithio’n agos gyda ffermwyr i sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed wrth i gefnogaeth yn y dyfodol gael ei chynllunio.

“Mae’n bleser gen i gyhoeddi heddiw adroddiad ar gam cyntaf y gwaith cyd-gynllunio ac ymrwymo i adeiladu ar y gwaith hwn mewn ail gam y flwyddyn nesaf. Bydd hyn yn rhan o broses barhaus i ymgysylltu â ffermwyr a rhanddeiliaid a fydd yn ein harwain at ymgynghoriad terfynol ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy a’n cyfnod pontio i’r Cynllun newydd, yng ngwanwyn 2023.

“Drwy gydol 2024 byddwn yn ymgysylltu â ffermwyr drwy raglen allgymorth. Bydd hyn yn sicrhau y byddwn yn barod i agor y cynllun ym mis Ionawr 2025.”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.