14 C
Llanelli
Tuesday, August 25, 2026
Home Business Cwmnïau bwyd a diod o Gymru yn troi eu golygon at farchnadoedd...

Cwmnïau bwyd a diod o Gymru yn troi eu golygon at farchnadoedd newydd y Gwlff

0
568
Silk Roots 70 cl
Silk Roots 70 cl

Mae ymweliad datblygu masnach rhithwir diweddaraf Llywodraeth Cymru yn gobeithio adeiladu ar y buddsoddiad a wnaed eisoes yn rhanbarth y Dwyrain Canol dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae’n cynnwys nid un wlad ond pedair, Sawdi-Arabia, Kuwait, Oman a Bahrain.

Fel rhan o strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y sector bwyd a diod i ddatblygu a chyrchu marchnadoedd newydd mewn ffyrdd newydd dramor, dyma ymweliad datblygu masnach bwyd a diod cyntaf Cymru yn y Dwyrain Canol y tu allan i’r Emiradau Arabaidd Unedig a Qatar.

Yn cymryd rhan yn yr ymweliadau datblygu masnach rhithwir mae wyth cynhyrchydd o Gymru sy’n cynnwys allforwyr profiadol fel Rachel’s Organic Dairy, Halen Môn a The Lobster Pot, yn ogystal ag allforwyr newydd sy’n cynnwys The Old Coach House Distillery a Good Carma Foods.

Wedi’i leoli yn Nhrefynwy, The Old Coach House Distillery yw’r ddistyllfa ddi-alcohol gyntaf yn y byd, ac mae’n cynhyrchu diod fotaneg ddistylliedig arobryn, STILLERS. Mae’r busnes teuluol yn cyflogi 10 o bobl ac yn cynhyrchu’r ddiod trwy ddistyllu perlysiau a sbeisys organig wedi’u cymysgu â dŵr ffynnon gorau Cymru mewn potiau copr gan ddefnyddio dull traddodiadol.

Dywedodd Cameron Mackay, Cyfarwyddwr Gwerthu a Marchnata: “Rydyn ni’n teimlo bod angen diod soffistigedig, ddi-alcohol ar gyfer cynhwysiant cymdeithasol, ac fel dewis arall yn lle diodydd meddal llawn siwgr. Ar hyn o bryd rydyn ni’n codi ymwybyddiaeth o’n brand ac mae allforio i rai marchnadoedd fel y Dwyrain Canol yn allweddol i hyn. Rydyn ni’n teimlo bod y Dwyrain Canol yn cynnig potensial sylweddol i STILLERS gan ei bod i raddau helaeth yn farchnad heb ei chyffwrdd ar gyfer diodydd di-galori premiwm heb siwgr ychwanegol.

“Mae cefnogaeth Llywodraeth Cymru wedi bod yn rhagorol gyda phob cwmni’n cymryd rhan mewn sesiwn friffio marchnad rithwir lle rydyn ni wedi cael cyfle i glywed gan ddosbarthwr rhanbarthol, deall yr amgylchedd rheoleiddio a’r tueddiadau bwyd a diodydd allweddol, ac yn olaf cael mewnwelediadau am wneud busnes yn y rhanbarth.

“Rydyn ni’n gyffrous iawn ein bod yn mynd â’n diodydd i farchnad y Dwyrain Canol ac yn gobeithio eu bod yn mwynhau profiad portffolio STILLERS.”

Cwmni arall sy’n cychwyn ar ymweliad datblygu masnach rhithwir y Gwlff yw The Lobster Pot, busnes teuluol ar Ynys Môn sy’n arbenigo mewn cyflenwi’r pysgod cregyn byw gorau i gwsmeriaid yn y DU, Ewrop a thu hwnt.

Dywedodd Julie Hill, Rheolwr Prosiect The Lobster Pot: “Gyda dros 70 mlynedd o frwdfrydedd dros ein pysgod cregyn byw safonol, cynaliadwy, rydyn ni’n cynnig cyflenwadau cyfanwerthu ac adwerthu o gimychiaid a chrancod brown byw trwy gydol y flwyddyn sy’n cael eu cyrchu’n gynaliadwy o gychod dibynadwy a phrofiadol o arfordiroedd Cymru a’r DU.

“Rydyn ni’n allforwyr profiadol ac mae gennyn ni ddiddordeb arbennig mewn ehangu ein maes allforio i wledydd y Gwlff, felly mae’r ymweliadau datblygu masnach hyn yn amhrisiadwy.

“Mae rhaglenni Allforio Bwyd a Diod Llywodraeth Cymru yn cefnogi cwmnïau sydd â diddordeb mewn allforio, a’u rhoi mewn cysylltiad â phrynwyr a dosbarthwyr yn ôl categori’r cynnyrch er mwyn datblygu a chryfhau perthnasoedd busnes, masnach ac allforio.

“Rydyn ni’n ddiolchgar iawn am yr holl gymorth gan fod targedu ffrydiau newydd o refeniw ac allforio yn allweddol i’n cynllun busnes.”

Mae Clydach Farm – Bwyd Ci yn dymuno ehangu ymhellach i farchnad y Dwyrain Canol. Dywedodd Callum Griffiths, Sylfaenydd a Rheolwr Gyfarwyddwr Clydach Farm,

“Dechreuon ni ein taith allforio, gan gyflenwi i selogion cŵn yn Ffrainc a’r Almaen i ddechrau. Lledaenodd enw Clydach yn gyflym gyda llawer o’n cymdogion Ewropeaidd, ac arweiniodd hyn aton ni’n cyflenwi canolfannau garddio, siopau anifeiliaid anwes ac archfarchnadoedd yn Rwmania, y Ffindir, y Weriniaeth Tsiec, Sbaen, Portiwgal a Chyprus.

“Nawr bod ein cynhyrchion newydd nid yn unig yn cynnwys bwydydd sych a danteithion ar gyfer cŵn, ond bwyd ci gwlyb hefyd, rydyn ni’n gobeithio ehangu ymhellach i’r Dwyrain Canol.”

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd Lesley Griffiths AS yn credu bod llwyfan cryf ar gyfer twf pellach a all fod o fudd i bawb.

Dywedodd y Gweinidog: “Mae ein diwydiant bwyd a diod wedi datblygu enw da am ansawdd a dilysrwydd ac rydyn ni wedi ymrwymo i helpu busnesau Cymru i elwa ar farchnadoedd byd-eang newydd a phresennol.

“Mae ein rhaglen allforio ar gael i bob busnes bwyd a diod sy’n ystyried allforio. Rydyn ni wedi arwain y ffordd ar ymweliadau masnach rhithwir ac maen nhw’n ffordd wych i lawer o gwmnïau bwyd a diod Cymru arddangos eu cynhyrchion gwych a’u galluoedd i gynulleidfaoedd rhyngwladol mewn fformat sy’n addas ar gyfer yr hinsawdd sydd ohoni.”

I gael mwy o wybodaeth am Raglen Datblygu Allforio a Masnach Llywodraeth Cymru, ewch i https://businesswales.gov.wales/foodanddrink/cy/tyfu-eich-busnes/allforio


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.