9.6 C
Llanelli
Monday, March 16, 2026
Home Food Cynhyrchion Cymreig yn cael eu gwobrwyo am eu Blas Gwych

Cynhyrchion Cymreig yn cael eu gwobrwyo am eu Blas Gwych

0
351
Lili Mai Raspberry and Rose Jam
Lili Mai Raspberry and Rose Jam

Mae Great Taste, gwobrau bwyd a diod mwyaf poblogaidd y byd, wedi cyhoeddi eu sêr o 2021, ac mae llu o gynhyrchion bwyd a diod blasus o Gymru wedi cael sêl bendith aur.

 Mae 270 o gynhyrchion Cymreig eithriadol, yn amrywio o gynhyrchwyr crefftus annibynnol bach i ddosbarthwyr ar raddfa fawr, wedi bod yn llwyddiannus yn y gwobrau, gyda 190 o gynhyrchion yn cael 1-seren, 69 yn derbyn 2-seren ac 11 yn ennill clod uchel gyda 3-seren.

 Bob blwyddyn mae panel o feirniaid o fri sy’n cynnwys cogyddion llwyddiannus, awduron coginio, beirniaid bwyd, perchnogion bwytai a manwerthwyr bwydydd da yn dod ynghyd i flasu bwyd a diod gorau gwledydd Prydain, ac eleni, wnaeth cynhyrchwyr Cymru ddim siomi.

 Mae’r broses yn cynnwys beirniaid yn blasu’n ddall mewn timau o dri neu bedwar, gan sicrhau bod “cydbwysedd o arbenigedd, oedran a rhywedd” cyn iddyn nhw wneud eu penderfyniadau terfynol.

 Yr 11 o gynhyrchion o Gymru sydd wedi cael eu cydnabod fel rhai sy’n darparu “bwydydd hynod flasus” 3-seren yw: 

• Tŷ’r Gobaith’s Pantry (Powys) – Ciwcymbr Picl

• Pantri Swswen (Powys) – Jam Cyrens Duon Cymreig

• Pembrokeshire Lamb Ltd (Sir Benfro) – Ysgwydd Hesbin

• Silver Circle Distillery Limited (Sir Fynwy) – Negroni Eirin Duon

• Happy Hedgehog Foods Ltd (Sir y Fflint) – Finegr Balsamig Mefus

• Dolwen Welsh Lamb and Beef (Sir Ddinbych) – Ysgwydd Cig Oen Cymru PGI Dolwen

• Lili Mai (Ceredigion) – Jam Mafon a Rhosyn

• Caws Teifi (Ceredigion) – Halloumi Teifi

• Best of Hungary Ltd (Ceredigion) – Powdwr Paprika Hwngaraidd Poeth wedi’u Fygu Rubin Paprika

• Hufen Iâ Fecci / Hufen Iâ Llaeth Moethus Mario (Sir Gaerfyrddin) – Hufen Iâ Llaeth Cnau Pistasio Sisilaidd

• Dunbia (DU) (Sir Gaerfyrddin) – Cote de Boeuf Brid Brodorol Rose County wedi’i Sychu am 35 Diwrnod

 Wrth sôn am Negroni Eirin Duon Silver Circle Distillery Ltd, dywedodd un o’r beirniaid annibynnol: “Mae’r cymhlethdod yn rhyfeddol; mae’r cydbwysedd rhwng melyster a chwerwder yn parhau i ymhyfrydu ymhell ar ôl y llymaid olaf.

“Allwn ni ddim meddwl sut mae gwella arno; roeddem ni’n meddwl am flas eirin duon mwy agored ond roeddem ni’n teimlo na ddylai unrhyw beth darfu ar y cydbwysedd perffaith o flasau ac arogleuon.”

 Wrth longyfarch y cynhyrchwyr buddugol, dywedodd Gweinidog Materion Gwledig Llywodraeth Cymru a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, Lesley Griffiths:

“Rwy’n falch iawn o nifer y gwobrau sydd wedi’u hennill yn haeddiannol gan gynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru yng ngwobrau Great Taste 2021.

Mae beirniaid Guild of Fine Food wedi nodi cynnyrch o’r ansawdd gorau o bob rhan o Gymru, sy’n adlewyrchu’r gwaith caled a’r creadigrwydd sy’n nodweddiadol o’n diwydiant bwyd a diod o’r radd flaenaf.

Llongyfarchiadau enfawr i bawb ar eu llwyddiannau yng Ngwobrau eleni a hoffwn ddymuno pob llwyddiant iddyn nhw yn y dyfodol.”

 Mae Great Taste, a drefnir gan Guild of Fine Food, yn cael ei gydnabod yn eang fel y cynllun achredu bwyd uchaf ei barch ar gyfer cynhyrchwyr bwyd crefftus ac arbenigol, ac fe’i disgrifir fel ‘Oscars’ y byd bwyd.

 Dywedodd John Farrand, rheolwr gyfarwyddwr Guild of Fine Food“Mae safon y ceisiadau o Gymru eleni wedi bod yn rhagorol o ystyried heriau’r 18 mis diwethaf. Cydnabyddir Great Taste fel stamp o ragoriaeth ymhlith defnyddwyr a manwerthwyr fel ei gilydd. Mae’n llwyddiant gwych ac yn arwydd amlwg o’r ansawdd a’r rhagoriaeth, sy’n adlewyrchu’r ymrwymiad a’r ymroddiad cynyddol gan gynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru i’r sector bwydydd da.”

 Mae pob un o’r cynhyrchion Cymreig 3-seren nawr yn cael eu hystyried ar gyfer y teitl rhanbarthol ‘Golden Fork from Wales’, a gyhoeddir ddydd Sul 17 Hydref 2021.

 Gellir gweld rhestr lawn o enillwyr eleni yn www.greattasteawards.co.uk


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.