5 C
Llanelli
Tuesday, February 3, 2026
Home hywel dda health board Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gofyn i bobl sy’n gymwys i...

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gofyn i bobl sy’n gymwys i gael trydydd brechlyn sylfaenol Covid-19 gamu ymlaen

0
572
0D76DA4D B98B 4DD2 A0ACA9CF3A59D0D2 carouselimage
0D76DA4D B98B 4DD2 A0ACA9CF3A59D0D2 carouselimage

Gofynnir i bobl 12 oed a hŷn sy’n byw yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro â systemau imiwnedd sydd wedi’u gwanhau’n ddifrifol ar adeg eu brechlynnau COVID-19 cyntaf a / neu ail gysylltu â’r bwrdd iechyd i ofyn am drydydd dos o frechlyn Coronafeirws.

Yn dilyn cyngor wedi’i ddiweddaru gan y Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio (JCVI)  ym mis Medi, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIPHDd) wedi gweithio gyda clinigwyr i nodi unigolion cymwys i’w gwahodd am eu trydydd dos ar gyfnodau priodol yn eu cylch triniaeth.

Mae’r bwrdd iechyd bellach yn gofyn i unrhyw un a oedd yn imiwnoataliedig ar adeg eu brechlyn COVID-19 cyntaf neu ail ac na chysylltwyd â hwy eto ynglŷn â’u trydydd dos sylfaenol i gysylltu.

Dywedodd Bethan Lewis, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Dros Dro Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Os gwanhawyd eich system imiwnedd yn ddifrifol oherwydd cyflwr iechyd sylfaenol neu driniaeth feddygol, efallai na fyddech wedi ymateb yn dda i ddau ddos cyntaf brechiad COVID-19.

“Bydd trydydd dos sylfaenol o’r brechlyn yn gwella eich lefelau imiwnedd i roi gwell amddiffyniad i chi a dylid ei roi o leiaf wyth wythnos ar ôl yr ail ddos, ond bydd amseru yn dibynnu ar unrhyw driniaeth y gallech fod yn ei chael. Efallai y bydd angen brechiad atgyfnerthu hefyd yn nes ymlaen.

“Os ydych yn byw yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion neu Sir Benfro ac yn credu eich bod yn gymwys i gael trydydd dos brechlyn sylfaenol ond nad ydym wedi cysylltu â chi eto, rydym yn gofyn ichi gysylltu â ni cyn gynted â phosibl.”

Sylwch, nid yw trydydd dos sylfaenol o’r brechlyn COVID-19 yr un peth â brechlyn atgyfnerthu. Bydd y bwrdd iechyd yn gwahodd y rhai sy’n gymwys i gael brechlyn atgyfnerthu i fynd i ganolfan brechu torfol cyn gynted â phosibl. Diolch am eich amynedd a pheidiwch â chysylltu â’r bwrdd iechyd ar hyn o bryd ynglŷn â brechlyn atgyfnerthu.

I ofyn am drydydd brechlyn COVID-19 sylfaenol, cwblhewch un o’r ffurflenni cais canlynol sy’n berthnasol i chi:

Os na allwch chi, neu rywun rydych chi’n ei adnabod, gyrchu’r ffurflenni cais ar-lein, cysylltwch â ni dros y ffôn trwy ffonio 0300 303 8322 neu drwy e-bost COVIDEnquiries.hdd@wales.nhs.uk i ofyn am eich trydydd dos brechlyn COVID-19 sylfaenol.

Mae mwy o wybodaeth am y trydydd cynnig brechlyn COVID-19 sylfaenol ar gael yma https://biphdd.gig.cymru/gofal-iechyd/gwybodaeth-covid-19/rhaglen-frechu-covid-19/trydydd-brechlyn-covid-19-cynradd/


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.