9 C
Llanelli
Saturday, March 7, 2026
Home Charity Pob lwc i Jodine Fec, sy’n rhedeg marathon i godi arian ar...

Pob lwc i Jodine Fec, sy’n rhedeg marathon i godi arian ar gyfer Gwasanaethau Lles Dementia ar draws Hywel Dda.

0
417
Jodine Fec Marathon fundraiser picture
Jodine Fec Marathon fundraiser picture

Pob lwc i Jodine Fec, sy’n rhedeg marathon i godi arian ar gyfer Gwasanaethau Lles Dementia ar draws Hywel Dda.

Mae Jodine, sy’n byw yn Aberhonddu, yn gweithio fel Uwch Fferyllydd i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac yn bwriadu rhedeg Marathon Casnewydd ar 24 Hydref ar ôl gorfod oedi ddwywaith oherwydd COVID-19.

Rwy’n gweithio i’r Tîm Cymuned Lles Dementia yn Hywel Dda, fel rhan o’r strategaeth dementia ehangach,” meddai, “ac yn gobeithio y bydd fy ymdrechion yn codi swm da i gefnogi pobl sy’n byw gyda dementia.

“Dyma fy ymgais marathon cyntaf, wedi’i ohirio gan COVID ddwywaith! Rwy’n dweud ymgais gan nad wyf yn gwybod a fyddaf yn gorffen ar y diwrnod. Fel yr wyf wedi darganfod ers hynny, os ydych chi’n rhy araf, rydych chi’n cael eichmopio i fynygan fws (ac rwy’n araf!) Fodd bynnag, os bydd y bws yn fy nghael i, rwy’n addo cwblhau’r milltiroedd sy’n weddill ar fy melin draed neu lwybr y gamlas leol.” Os hoffech gyfrannu at her Jodine, ewch i http://www.justgiving.com/Jodine-Fec.

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, fod pawb yn dymuno’r gorau i Jodine yn ei her marathon.

“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau yn ychwanegol at yr hyn gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn,” meddai Nicola.

I gael mwy o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff y GIG lleol, ewch i www.elusennauiechydhyweldda.org.uk


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.