11.1 C
Llanelli
Saturday, September 26, 2026
Home News Health News Darpariaeth Brofi Covid newydd i Bontardawe

Darpariaeth Brofi Covid newydd i Bontardawe

0
382
4086
4086

Bydd uned brofi symudol yn gweithredu ym Mhontardawe cyn bo hir bob dydd Mercher a, Gwener rhwng 9am a 5pm. Bydd yr uned yn cynnig dewis profi y gellir ei archebu ar gyfer pobl sydd naill ai ag arwyddion ‘clasurol’ coronafeirws neu symptomau eraill y byddan nhw’n teimlo o bosib eu bod nhw’n anghyffredin iddyn nhw neu eu plentyn.

Gall rhain gynnwys symptomau tebyg i’r ffliw, gan gynnwys unrhyw rai neu’r cyfan o’r canlynol:

  • myalgia (cyhyrau’n gwynegu neu’n boenus);
  • blinder eithafol;
  • pen tost parhaus;
  • trwyn yn rhedeg neu’n llawn (oni bai bod hynny’n symptom clefyd y gwair cyfarwydd i’r unigolyn);
  • tisian yn barhaus;
  • llwnc tost a/neu lais crug, diffyg anadl neu frest yn gwichian wrth anadlu;

Bydd y profion ar agor hefyd i unrhyw un sy’n teimlo’n gyffredinol anhwylus ac a fu mewn cysylltiad ag achos hysbys o COVID-19, neu unrhyw un sydd â symptomau newydd neu wahanol ar ôl cael prawf negyddol yn flaenorol.

Er bod Cymru’n parhau ar ‘Lefel Sero’ ar Gynllun Rheoli Coronafeirws Llywodraeth Cymru, mae’n rhaid i bob un ohonom chwarae ein rhan o hyd i atal lledaeniad y feirws. Bydd cael prawf yn helpu i gefnogi ein busnesau lleol i gadw’n ddiogel ac yn masnachu.

Lleolir yr Uned Brofi Symudol ym Maes Parcio’r A474,Ffordd Osgoi Pontardawe, SA8 4EQ. Bydd ar agor dydd Mercher a Gwener o 09:00 – 17:00. Bydd hyn yn dechrau ar 5ed o Hydref a bydd y cyfleuster ar agor hyd oni hysbysir yn wahanol.

Bydd angen archebu profion ymlaen llaw. Archebwch ar lein ar www.gov.uk/get-coronavirus-test neu drwy ffonio 119.

Gallwch hefyd ffonio rhif lleol Bwrdd Iechyd Bae Abertawe: 01639 862757 a siarad â gweinyddwr a fydd yn archebu eich prawf i chi.

Ar ôl cael y prawf, bydd pobl yn cael cyfarwyddyd ynghylch sut mae cofrestru eu canlyniadau.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.