15.8 C
Llanelli
Wednesday, September 30, 2026
Home Newyddion Lle ADAM PRICE YN GALW AR GYMRU I ARWAIN Y FRWYDR DROS YMLADD...

ADAM PRICE YN GALW AR GYMRU I ARWAIN Y FRWYDR DROS YMLADD NEWID HINSAWDD

0
425
received 335147850387750
received 335147850387750

“Ni ddylai maint ein cenedl bennu cwmpas ein huchelgais gwyrdd na chyfyngu ar yr hyn y gallem ei gyflawni” – Adam Price AS

 

Mae Adam Price AS, Arweinydd Plaid Cymru, wedi galw ar Gymru i arwain y ffordd ar y frwydr yn erbyn newid hinsawdd.

Gwnaeth Mr Price y galwadau ar ôl ei feirniadaeth o’r cytundeb COP26 drafft, a ddangosodd gagendor “syfrdanol” rhwng rhethreg a realiti arweinwyr y byd.  

Dywedodd Mr Price, sy’n mynychu COP26 heddiw (dydd Iau 11 Tachwedd) mai’r brif wers y bydd yn ei chymryd o’r uwchgynhadledd yw sut y gellir grymuso cenhedloedd bach fel Cymru i frwydro dros weithredu yn yr hinsawdd.

Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price AS,

“Rhwng eithafion llifogydd yn y gaeaf a sychder yn yr haf, mae Cymru eisoes yn teimlo effeithiau newid yn yr hinsawdd. Er ein bod yn aros i arweinwyr y byd nodi cynllun gwirioneddol i gadw o fewn cynnydd o 1.5 gradd mewn cynhesu byd-eang, y brif wers y gallwn ei chymryd o COP26 yw y gellir grymuso cenhedloedd bach fel Cymru i frwydro dros weithredu yn yr hinsawdd.

“Mae ein cenedl yn gyfoethog o ran ffynonellau ynni adnewyddadwy. Er ein bod yn dal i deimlo creithiau polisi Thatcher ar gymunedau diwydiannol yn y 1980au, gallem arwain y ffordd ar y newid gwyrdd. Gallai ein chwyldro ynni glân greu swyddi sgiliau uchel a chodi safonau byw pobl ym mhob cwr o Gymru.

“Mae ein huchelgeisiau’n llawer mwy na rhai Llywodraeth San Steffan, ac ni ddylem adael i’n maint bennu terfynau’r hyn y gallem ei gyflawni. Dyna pam y mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru gael yr ysgogiadau a’r pwerau economaidd dros Ystâd y Goron i sicrhau mai pobl Cymru sy’n elwa o’r cyfle hanesyddol hwn i greu dyfodol gwyrddach.“


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.