
O ystyried lansiad llwyddiannus cynllun rhwydweithio ar-lein Newydd, mi fydd yn parhau gydag ail ddigwyddiad yn ddiweddarach y mis hwn.
Nod ‘EqualiTea’ yw llenwi’r bwlch cymdeithasu a deimlir gan lawer yn y byd gwaith hybrid newydd – lle roedd y sgyrsiau ar hap yn aml yn arwain at ffyrdd newydd o feddwl, cydweithredu a syniadau ysbrydoledig.
Yn cael ei redeg gan Chwarae Teg, bydd ‘EqualiTea’ yn rhedeg eto ar 19 Tachwedd, gyda chyflogwyr a gweithwyr ar draws gorllewin Cymru yn cael eu gwahodd i gofestru erbyn dydd Mawrth 16 Tachwedd drwy www.chwaraeteg.com/digwyddiadau/equalitea. Yna fe’u cyflwynir trwy e-bost i gyd-gyfranogwr fel y gallant drefnu amser EqualiTea cyfleus!
Mae’r tîm yn Chwarae Teg yn gobeithio y bydd EqualiTea yn cychwyn lle orffennodd y Clwb Coffi a drefnwyd mor llwyddiannus gan Kate Carr. Dywedodd Kate: “Cysylltu pobl fel bod pethau da yn digwydd yw fy angerdd llwyr felly mae’n hollol wych trosglwyddo’r baton i Chwarae Teg, a chael pobl i siarad dros baned. Yn fwy nag erioed, mae angen i ni fod yn gynhwysol, yn gysylltiedig a gwneud synnwyr o sut rydyn ni i gyd yn teimlo.”
Dywedodd Sarah Rees, Partner Datblygu, Chwarae Teg: “Gan fod llawer o bobl yn dal i weithio gartref, dechreuais i feddwl. Ble mae’r prosiectau sy’n cael eu sbarduno ar hap wrth i chi giwio am y bwffe, y person hwnnw mewn cyfarfod sy’n eich ysbrydoli a chithau’n cael cyfle i sgwrsio â nhw ar y ffordd allan o’r ystafell? Soniais i am hyn yn yr ystafell drafod ar-lein ar ddiwrnod staff, ac roedd pawb yn fy ystafell fach i’n cytuno. Mae gennym hiraeth am yr amser i sgwrsio a chysylltu â phobl newydd. Dyna’n syml beth yw pwrpas EqualiTea!”
Ar gyfer unrhyw gwestiynau EqualiTea cysylltwch â: fundraising@chwaraeteg.com
| [donate] | Help keep news FREE for our readersSupporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. |

















