20.4 C
Llanelli
Tuesday, August 25, 2026
Home Newyddion Lle Pecyn cymorth newydd ar gyfer gofalwyr di-dâl

Pecyn cymorth newydd ar gyfer gofalwyr di-dâl

0
421
41ded86bd36b4d83ae561bb724adfce9
41ded86bd36b4d83ae561bb724adfce9
Welsh Government

Ar Ddiwrnod Hawliau Gofalwyr, mae’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol Julie Morgan wedi amlinellu sut y bydd cyllid o £7m gan Lywodraeth Cymru yn cefnogi gofalwyr di-dâl, gan gydnabod y cymorth hanfodol y maent yn ei roi i’r bobl y maent yn gofalu amdanynt.

Bydd y pecyn cymorth yn dyrannu £5.5 miliwn i awdurdodau lleol i roi cymorth wedi’i dargedu ar gyfer gofalwyr di-dâl; £1.25m ar gyfer y Gronfa Gymorth i Ofalwyr – y llynedd, rhoddodd y gronfa hon gymorth i bron 6500 o ofalwyr di-dâl a oedd yn cael anhawster ymdopi ag effaith ariannol COVID-19; £20,000 i ariannu sesiynau cymorth llesiant meddyliol ar-lein; a £230,000 ar gyfer Cronfa’r Teulu i gefnogi dros 600 o deuluoedd incwm isel eraill sydd â phlant anabl neu ddifrifol wael.

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi ymrwymo i roi £3 miliwn yn 2021-22 i alluogi i ofalwyr gymryd seibiant o’u rôl ofalu, gan ddod â’r cyfanswm cymorth ariannol ychwanegol ar gyfer gofalwyr di-dâl eleni i £10 miliwn.

Mae enghreifftiau o sut y mae’r arian hwn wedi’i wario hyd yma yn cynnwys;

  • £5,000 i ariannu creu cynllun Seibiantgarwch yng Ngwynedd i weithio gyda’r sector gwyliau i gynnig gwyliau rhatach i ofalwyr di-dâl;
  • £10,000 i ariannu ailfodelu gofal dydd ar gyfer pobl hŷn yng Ngwynedd, sy’n cynnwys talu am becynnau gofal byr a hyblyg ar gyfer gofalwyr a’r unigolion maent yn eu cefnogi;
  • £20,000 i ariannu rhaglen gwnsela chwe wythnos yng Nghonwy i helpu i gefnogi gofalwyr gyda straen personol a gorbryder;
  • £40,000 i ariannu rhaglen Cynnal Gofalwyr yng Nghonwy i ddarparu seibiant, diwrnodau allan, a phenwythnosau i ffwrdd yng Nghonwy ar gyfer gofalwyr dros 18 oed;
  • £32,000 ar gyfer cynnal cynllun peilot i rieni sy’n ofalwyr ddewis cymorth ymarferol addas ar gyfer eu hanghenion yn Abertawe.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol:

“Gall effaith corfforol ac emosiynol gofalu fod yn llethol. Rydym yn rhannu’r pryderon bod rhai wedi cyrraedd pen eu tennyn oherwydd y pwysau ychwanegol arnynt o ganlyniad i’r pandemig. Mae miloedd o ofalwyr di-dâl wedi cael eu cefnogi ers dechrau’r pandemig ond mae’n hanfodol ein bod yn parhau i helpu gofalwyr di-dâl i ymdopi ag effaith emosiynol ac ariannol COVID-19.”

“Mae’r cyllid a gyhoeddwyd heddiw yn dangos cymaint yw ein gwerthfawrogiad i’r fyddin o ofalwyr di-dâl yng Nghymru sydd wedi mynd yr ail filltir i ofalu am eu ffrindiau a’u teulu. Rydym yn ymrwymo i gynorthwyo gofalwyr i fyw eu bywyd yn ogystal â gofalu.”

“Mae gofalwyr di-dâl yn chwarae rhan hanfodol yn ein cymdeithas, gan helpu i leihau’r pwysau ar y gwasanaeth iechyd drwy sicrhau y gall pobl ddod adref o’r ysbyty a pheidio â dychwelyd yno. Mae eu gwaith eithriadol a’u cyfraniad i ofal cymdeithasol yn rhan o becyn gwerth £42m i gefnogi cynllun y gaeaf ar gyfer y GIG.”

Dywedodd gofalwr di-dâl sy’n mynd i grŵp cymorth dementia yng Ngwynedd:

“Mae’r Grŵp Gofalwyr Dementia wedi rhoi cyfeillgarwch i mi, a chymorth pan oeddwn i’n teimlo ar goll wrth ofalu am fy ngŵr sydd â dementia cymysg. Rwyf wedi gwneud ffrindiau drwy’r cyfarfodydd, wedi gwella fy rhinweddau fel gofalwr, ac wedi cael cyngor ymarferol gan y gofalwyr eraill a’r siaradwyr gwadd sydd wedi ein harwain gyda’u cyngor doeth ar bob math o faterion ymarferol sy’n berthnasol i fod yn ofalwr. Mae boreau dydd Mawrth yn llawer llai unig ers i mi ymuno â’r grŵp.”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.