8.5 C
Llanelli
Sunday, March 8, 2026
Home Charity Elusennau Iechyd Hwel Dda ar godwr arian marathon Gerald a Bryan

Elusennau Iechyd Hwel Dda ar godwr arian marathon Gerald a Bryan

0
544
Gerald and Bryan marathon fundraiser follow up
Gerald and Bryan marathon fundraiser follow up
Er mai dim ond yn ddiweddar y mae wedi gwella o COVID-19, fe redodd Bryan Hughes, ynghyd â’i gefnder Gerald Brace, farathon a gyda’i gilydd ac fe wnaethant godi £1,585 gwych ar gyfer Gwasanaethau Canser y Prostad yn Ysbyty Glangwili.

Cymerodd y pâr ran ym Marathon Casnewydd i ddweud diolch am y driniaeth a gafodd tad Bryan, Delroy Hughes, yn Ysbyty Glangwili ar ôl iddo gael diagnosis o Ganser y Prostad ym mis Gorffennaf 2019.

Roedd yn her enfawr i'r ddau, yn enwedig gan mai dim ond yn ddiweddar yr oedd Bryan wedi gorffen hunan ynysu ar ôl cael diagnosis o coronafeirws.

Dywedodd Bryan, 42, o Hwlffordd: “Roedd yn ymdrech enfawr gan nad oeddwn yn teimlo 100 y cant, ond roeddwn yn teimlo mor falch ac emosiynol i gyrraedd y linell derfyn.

“Roeddwn i’n meddwl mai dim ond 10k y byddwn wedi llwyddo ei gyflawni ar ôl cael Covid, felly roedd yn foment mor gofiadwy gallu dweud wrth dad fy mod wedi cwblhau’r marathon cyfan.”

Ychwanegodd Gerald, 51, o Sageston: “I mi, roedd y pum milltir olaf yn uffern wrth i mi deimlo poen a gorfod cerdded neu loncian i gyrraedd y llinell derfyn!

“Hoffem ein dau ddweud diolch enfawr i bawb a roddodd arian, a brynodd docynnau raffl, a rhoi neu drefnu gwobrau raffl.

“Rydyn ni'n dau wedi gwella'n dda nawr, ac rydyn ni wrth ein bodd ein bod ni wedi gorffen a chodi'r swm o arian wnaethon ni at achos mor wych.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, eu bod am ddiolch i Bryan a Gerald am ymdrech, yn enwedig pan oedd Bryan yn gwella ar ôl COVID-19.

“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn,” meddai Nicola. “Da iawn i Bryan a Gerald.”

I gael mwy o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i 

[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.