8.5 C
Llanelli
Saturday, February 28, 2026
Home hywel dda health board Mae BIP Hywel Dda yn ennill gwobr Cynllun Cydnabod Cyflogwr Aur 2021

Mae BIP Hywel Dda yn ennill gwobr Cynllun Cydnabod Cyflogwr Aur 2021

0
403
FFnmsg7XIAU8aIe
FFnmsg7XIAU8aIe

Dyfarnwyd Gwobr Cynllun Cydnabod Cyflogwr Aur (ERS) 2021 i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, mewn seremoni ranbarthol arbennig yng Nghaerdydd. 

Yn cynrychioli’r bathodyn anrhydedd uchaf, dyfernir Gwobrau Aur ERS i sefydliadau sy’n cyflogi ac yn cefnogi’r rhai sy’n gwasanaethu yn y lluoedd arfog, cyn-filwyr a’u teuluoedd. 

Derbyniodd BIP Hywel Dda’r wobr ar ôl dangos polisïau AD cefnogol yn llwyddiannus ar gyfer cyn-filwyr, milwyr wrth gefn, a Gwirfoddolwyr sy’n Oedolion Llu’r Cadetiaid.

Roedd hyn yn cynnwys dangos cefnogaeth i briod a phartneriaid y rhai sy’n gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog. 

Roedd yn rhaid i’r bwrdd iechyd hefyd ddangos ei fod yn darparu 10 diwrnod o absenoldeb ychwanegol a dâl i filwyr wrth gefn.  

At hynny, i eirioli’r buddion o gefnogi aelodau cymuned y lluoedd arfog trwy annog eraill i arwyddo Cyfamod y Lluoedd Arfog a chymryd rhan yn yr ERS. 

Dywedodd Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Hywel Dda, Steve Moore: “Rwy’n hynod falch bod gwaith caled llawer o bobl yn ein sefydliad i gefnogi’r gymuned Amddiffyn a’r gweithlu wedi cael ei gydnabod gyda Gwobr Aur Cynllun Cydnabod Cyflogwr. 

“Ein ffocws ers arwyddo Cyfamod y Lluoedd Arfog yn 2016, fu gwella ein polisïau gweithlu yn barhaus er mwyn denu a chefnogi recriwtio a chadw’r gweithlu o gymuned y Lluoedd Arfog.

“Rydyn ni’n cydnabod y wybodaeth, y sgiliau trosglwyddadwy a’r dull adeiladol a chadarnhaol y mae Cyn-Filwyr a Milwyr Wrth Gefn yn ei gynnig i’n gwasanaeth iechyd, sy’n ehangu ymhellach ar y cyfraniadau gwirioneddol sylweddol maen nhw’n eu gwneud i’r gymdeithas ehangach.” 

Mae’r bwrdd iechyd yn un o ddim ond 10 sefydliad yng Nghymru sydd wedi ennill y wobr aur. 

Cynhaliwyd y seremoni yn HMS Cambria yng Nghaerdydd ar 17 Tachwedd ac fe’i cyflwynwyd ar y cyd gan Ôl-lyngesydd Keith Beckett CBE a Swyddog Awyr Cymru, y Comodor Awyr Adrian Williams OBE. 

Yn derbyn y wobr ar ran y bwrdd iechyd roedd Helen Sullivan, Pennaeth Partneriaethau, Amrywiaeth a Chynhwysiant, Anna Bird, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Partneriaethau Strategol, Amrywiaeth a Chynhwysiant ac Alan Winter, Uwch Swyddog Amrywiaeth a Chynhwysiant sydd hefyd yn gyn-filwr gyda 25 mlynedd o wasanaeth. 

Dywedodd y Gweinidog dros Amddiffyn, Pobl a Chyn-filwyr, Leo Docherty: “Hoffwn ddiolch i’r holl sefydliadau sydd wedi profi eu cefnogaeth i’r gymuned Amddiffyn yn ystod amseroedd mor ddigynsail a heriol. 

“Mae’r ystod eang o’r rhai a gydnabyddir eleni yn dangos sut mae cyflogi cymuned y Lluoedd Arfog yn cael effaith wirioneddol gadarnhaol a buddiol i bob cyflogwr, waeth beth fo’u maint, sector neu leoliad.” 


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.