Clinigau brechu galw heibio i barhau i’r Flwyddyn Newydd

0
555
mhorwood Covid 19 Oxford Astrazeneca Vaccine 040121 29 scaled
mhorwood Covid 19 Oxford Astrazeneca Vaccine 040121 29 scaled

Gall Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIPHDd) gadarnhau bod pob oedolyn cymwys bellach wedi cael cynnig brechiad atgyfnerthu. Gwnaed cynigion i unrhyw un sy’n gymwys trwy ystod o ddulliau gan gynnwys llythyr, neges testun ac opsiynau galw heibio.

Dywedodd Bethan Lewis, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Dros Dro Iechyd Cyhoeddus: “Ni fydd neb yn cael ei adael ar ôl a gall unrhyw un sydd am dderbyn y cynnig atgyfnerthu, neu’r dos cyntaf a’r ail, wneud hynny o hyd.

“Os ydych yn gymwys i gael dos atgyfnerthu ac mae wedi bod yn dri mis ers eich ail ddos neu os oes angen eich dos cyntaf neu ail ddos arnoch chi, ewch i glinig galw heibio cyn gynted â phosibl.

“Os na allwch ddod i glinig galw heibio, trefnwch apwyntiad trwy gysylltu â’r bwrdd iechyd yn uniongyrchol ar 0300 303 8322 neu COVIDEnquiries.hdd@wales.nhs.uk i drefnu apwyntiad.

“Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i bawb am weithio mor ddiflino yn ystod yr wythnosau diwethaf i gyflawni’r garreg filltir hon, gan gynnwys pawb sy’n ymwneud â’n canolfannau brechu torfol, cydweithwyr mewn gofal sylfaenol ac yn y gymuned, staff ein canolfan orchymyn a phawb y tu ôl i’r llenni.”

Gweler amseroedd agor cerdded i mewn ar gyfer canolfannau brechu torfol o 2 Ionawr 2022:

Aberystwyth – Llyfrgell Thomas Parry, Campws Llanbadarn, Prifysgol Aberystwyth, SY23 3AS

• Ar gau Ionawr 1af

• Ar agor o 10am – 8pm Dydd Sul 2il i Dydd Sul 9 Ionawr

Caerfyrddin (cerdded i mewn) – Y Gamfa Wen, Prifysgol y Drindod Dewi Sant, SA31 3EP

• Ar gau Ionawr 1af

• Ar agor o 10am – 8pm, Dydd Sul 2il i Dydd Sul 9 Ionawr

Caerfyrddin (gyrru trwodd – dros 16 yn unig) – Maes Sioe’r Siroedd Unedig, SA33 5DR

• Ar gau 31 Rhagfyr a 1 Ionawr

• Ar agor o 10am – 8pm Dydd Sul 2 Ionawr

• Ar agor o 11am – 8pm, Dydd Llun 3 i Dydd Sul 9 Ionawr

Hwlffordd- Archifdai Sir Benfro, Prendergast, SA61 2PE

• Ar gau Ionawr 1af

• Ar agor o 10am – 8pm Dydd Sul 2il i Dydd Sul 9 Ionawr

Llanelli – Uned 2a, Stad Ddiwydiannol Dafen, Heol Cropin, SA14 8QW

• Ar gau Ionawr 1af

• Ar agor o 10am – 8pm Dydd Sul 2il i Dydd Sul 9 Ionawr

Dinbych y Pysgod – Canolfan Hamdden Dinbych y Pysgod, Marsh Road, SA70 8EJ

• Ar gau Ionawr 1, 2, 3 ac 6

• Ar agor o 9am – 5pm Dydd Mawrth 4 ac Dydd Mercher 5 Ionawr

• Ar agor o 10am – 8pm Dydd Gwener 7 i Dydd Sul 9 Ionawr

• Ar agor 10am – 7pm Dydd Llun 10 Ionawr

Cwm Cou – Ysgol Trewen, Cwm-Cou, SA38 9PE

• Ar gau Ionawr 1, 2, 3 ac 4

• Ar agor gydag argaeledd cyfyngedig ar gyfer galw heibio rhwng 10am a 2pm Dydd Mercher i Dydd Sul 9 Ionawr

Mae cleifion sy’n gaeth i’r tŷ yn parhau i gael eu cefnogi gan feddygfeydd teulu lleol, lle mae eu staff yn caniatáu, tra mewn ardaloedd eraill bydd ein tîm brechu cymunedol yn trefnu ymweld a chynnig brechu. Os ydych eisoes wedi cysylltu â’r bwrdd iechyd gyda’ch manylion, nid oes angen i chi gysylltu â ni eto a byddwn mewn cysylltiad yn fuan iawn.

Rhannwch y wybodaeth hon gyda ffrindiau a theulu, yn enwedig y rhai heb fynediad rheolaidd i’r rhyngrwyd neu bapur newydd. Gellir dod o hyd i’r wybodaeth ddiweddaraf am raglen frechu Hywel Dda COVID-19 trwy ymweld â https://biphdd.gig.cymru/brechlyn-COVID19/ 


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here