17.8 C
Llanelli
Saturday, September 19, 2026
Home hywel dda health board Cynlluniau am Ganolfan Iechyd Cross Hands i fynd gerbron Llywodraeth Cymru

Cynlluniau am Ganolfan Iechyd Cross Hands i fynd gerbron Llywodraeth Cymru

0
478
download 2
download 2

Mae’n bleser gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda gyhoeddi mae Achos Busnes Amlinellol ar gyfer datblygu Canolfan Lles sy’n cael ei leoli yn Cross Hands i’w ailgyflwyno i Lywodraeth Cymru. 

Mae’r achos busnes yn amlinellu ein bwriad i ddatblygu rhwydwaith iechyd a gofal cymdeithasol integredig ar gyfer ardal Aman Gwendraeth ac adeiladu Canolfan Lles. Os caiff ei gymeradwyo, bydd y ganolfan yn darparu sylfaen ar gyfer gwasanaethau iechyd a gofal a fydd yn cynnwys dwy feddygfa leol (Tymbl a Penygroes), llyfrgell, canolfan deulu, fferyllfa gymunedol a hefyd swyddogion cymorth heddlu cymunedol a grwpiau sector gwirfoddol. 

Mae pandemig Covid-19 wedi newid y ffordd yr ydym yn darparu rhai gwasanaethau iechyd a gofal. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi bod yn gweithio gyda phartneriaid a rhanddeiliaid i adnewyddu’r achos busnes dros y datblygiad er mwyn sicrhau bod y rhain yn parhau i fod yn addas ar gyfer anghenion iechyd a gofal ein poblogaeth nawr ac yn y dyfodol. Rhagwelir y bydd yr Achos Busnes yn cael ei ailgyflwyno i Lywodraeth Cymru yn Gwanwyn 2022.

Dywedodd Rhian Dawson, Cyfarwyddwr System Integredig (Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Chyngor Sir Caerfyrddin) “Rwy’n falch iawn ein bod bellach yn gallu ailffocysu ar ddatblygiad y Ganolfan Lles yn Cross Hands. Bydd hyn nid unig yn ased i Cross Hands ond bydd o fudd i Sir Gaerfyrddin yn ei chyfanrwydd. Er ei bod yn anffodus bod y pandemig wedi gohirio ein cynnydd, mae o hefyd wedi dangos pwysigrwydd darparu gwasanaethau mor agos at adref a phosibl.”

Rhagwelir y gallai’r Ganolfan fod yn gyflawn o fewn 36 mis ar ôl cymeradwyo’r achos Busnes Amlinellol. 


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.