17.7 C
Llanelli
Wednesday, September 2, 2026
Home Newyddion Lle Hwb o £14 miliwn i fusnesau bwyd a diod Cymru

Hwb o £14 miliwn i fusnesau bwyd a diod Cymru

0
354
Blas Cymru
Blas Cymru
Welsh Government News

Mae BlasCymru/TasteWales 2021 eisoes wedi helpu i sbarduno gwerth tua £14m mewn bargeinion busnes newydd a darpar fargeinion ar gyfer busnesau bwyd a diod o Gymru, yn ôl yr adborth cychwynnol.

Roedd y digwyddiad a gynhaliwyd ym mis Hydref yn ICCW yng Nghasnewydd yn gyfle i arddangos bwyd a diod o Gymru.
Gwnaeth dros 100 o fusnesau bwyd a diod o Gymru gymryd rhan yn y digwyddiad a chafodd 21 o’r rhain eu sefydlu yn ystod pandemig COVID.

Cynhaliwyd cyfanswm o 1,695 o gyfarfodydd COVID-ddiogel fel rhan o froceriaeth “Cwrdd â’r Prynwr” rhwng prynwyr masnach a busnesau bwyd a diod o Gymru, gan gynnwys trafodaethau rhithwir.

Roedd 200 o brynwyr masnach yn bresennol ac roedd hyn yn cynnwys y rhan fwyaf o’r prif fanwerthwyr a phartneriaid masnach gwasanaeth bwyd a lletygarwch allweddol yn ogystal ag urddasolion rhyngwladol sydd wedi’u lleoli yn y DU.

Yn ystod y digwyddiad, lansiodd y Gweinidog Materion Gwledig Lesley Griffiths Grŵp Cynghori newydd ar gyfer Allforio. Bydd hyn yn hanfodol er mwyn helpu i ddatblygu ymhellach allforion ar gyfer y diwydiant bwyd a diod yng Nghymru.

Mae’n cefnogi Gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y diwydiant Bwyd a Diod o 2021 sy’n anelu at adeiladu ar lwyddiant y sector yng Nghymru gyda’r nod allweddol o helpu i sicrhau diwydiant bwyd a diod ffyniannus sydd ag enw da yn fyd-eang am ragoriaeth.

Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths: “Rwy’n hynod falch o’r busnesau bwyd a diod sydd gennym yng Nghymru, sydd flwyddyn ar ôl blwyddyn yn datblygu ac yn arddangos cynhyrchion newydd, cyffrous ac arloesol.

“BlasCymru yw ein prif ddigwyddiad rhyngwladol i hyrwyddo diwydiant bwyd a diod Cymru ac er roedd y digwyddiad ym mis Hydref yn wahanol oherwydd effeithiau COVID, rwy’n falch ei fod eisoes wedi helpu busnesau i sicrhau gwerth tua £14m mewn bargeinion newydd neu bosibl.

“Yn ogystal â’r pandemig, mae’n rhaid i ni ystyried heriau’r Newid yn yr Hinsawdd, ac mae ein taith gynaliadwy bellach yn fwy pwysig nag erioed.

“Yng Nghymru, rydym yn gwbl ymrwymedig i egwyddorion cynaliadwyedd a thegwch i’n hamgylchedd, ein heconomi a’n cymdeithas gyfan. Mae’n hanfodol ein bod yn defnyddio adnoddau’n effeithlon drwy leihau gwastraff a’n hôl troed carbon a chymryd cyfrifoldeb am safonau uwch yn ein cadwyni cyflenwi.

“Roedd BlasCymru/TasteWales 2021 yn ddigwyddiad nodedig yn wyneb heriau digynsail, ac yn garreg filltir bwysig i ddiwydiant bwyd a diod arloesol a gwydn.”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.