17.9 C
Llanelli
Wednesday, September 2, 2026
Home News Health News Arbenigwyr yn pwysleisio cyfraniad lles at iechyd pobl

Arbenigwyr yn pwysleisio cyfraniad lles at iechyd pobl

0
704
pexels furkanvari 5611054 scaled
pexels furkanvari 5611054 scaled

Amlygwyd pwysigrwydd lles a’i gyfraniad at iechyd mewn papur newydd gan academyddion o Brifysgol Abertawe.

Prosiect ymchwil cydweithredol rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a’r Brifysgol yw GENIAL Science, a sefydlwyd ar y cyd gan yr Athro Andrew Kemp, o’r Ysgol Seicoleg. Mae’n cynnwys academyddion, clinigwyr, myfyrwyr PhD ac MSc ac mae’n ymrwymedig i ddatblygu damcaniaethau ac ymarferion sy’n ymwneud â lles.

Meddai’r Athro Kemp: “Mae ein cymdeithas yn wynebu sawl her gysylltiedig fawr a fydd yn cael effaith gynyddol sylweddol ar iechyd byd-eang ac mae’n ddyletswydd arnom yn y sector prifysgolion ac ymchwil i weithio tuag at oresgyn heriau o’r fath er mwyn hyrwyddo iechyd a lles unigolion, cymunedau a’r blaned.

“Rydym wedi nodi pwysigrwydd hyrwyddo lles wrth geisio gwella iechyd, yn enwedig mewn perthynas â phobl sy’n byw gyda chyflyrau cronig y mae’n rhaid eu rheoli, ac nad yw’n bosib iddynt gael eu hiacháu yn y rhan fwyaf o achosion.”

Yn y papur, mae’r Athro Kemp a’r seicolegydd clinigol ymgynghorol Dr Zoe Fisher, o Academi Iechyd a Lles y Brifysgol, yn amlinellu fframwaith trawsddisgyblaethol GENIAL a ddatblygwyd ganddynt er mwyn helpu i ddeall a gwella ‘iechyd cyfan’.

Meddai’r Athro Kemp: “Rydym yn dangos sut mae ein damcaniaeth wedi cael ei rhoi ar waith er mwyn gwella ‘iechyd cyfan’ mewn poblogaethau amrywiol, gan gynnwys myfyrwyr prifysgol a phobl sy’n byw gyda chyflyrau cronig.

Mae’r papur newydd gael ei gyhoeddi yn y cofnodolyn Global Advances in Health and Medicine ac mae’n amlinellu sut mae GENIAL Science wedi arwain at y canlynol:

Ailfynegi cysyniad cymhleth lles – a ddisgrifir yn aml fel ‘problem ddieflig’ – gan hwyluso cyfleoedd a fyddai’n cael eu colli fel arall;

Gwella profiad y myfyrwyr drwy fodiwl gwyddor lles a gynigir yn yr Ysgol Seicoleg sy’n ceisio hyrwyddo ymdeimlad o gysylltiad â’r hunan, pobl eraill a natur; a

Gwella iechyd a lles drwy bartneriaethau strategol, gan oresgyn trefniadau gweithio ynysig hirsefydlog sydd wedi cyfyngu ar gyfleoedd i wella iechyd a lles yn y gorffennol.

O ganlyniad i waith y tîm, sydd wedi cael ei ariannu gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, cipiodd Dr Fisher y wobr uchel ei bri am gyfraniad rhagorol at gyflawni ymchwil yn y Gwobrau Arloesi mewn Gofal Iechyd.

Ychwanegodd yr Athro Kemp: “Rydym wedi gosod y sylfeini ar gyfer model gwyddonol trawsddisgyblaethol i ymdrin â lles sy’n cynnig potensial nas gwireddwyd eto i hyrwyddo ‘iechyd cyfan’ unigolion, cymunedau a natur, yng nghyd-destun llawer o’r heriau sylweddol sydd bellach yn wynebu’r ddynolryw, gan gynnwys trychineb yr hinsawdd.”

Darllenwch y papur Wellbeing, Whole Health and Societal Transformation: Theoretical Insights and Practical Applications yn ei gyfanrwydd.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.