14.7 C
Llanelli
Tuesday, May 19, 2026
Home Charity Elusen y GIG lleol yn rhoi nerth i 

Elusen y GIG lleol yn rhoi nerth i 

0
555
Picture1
Picture1

Elusen y GIG lleol yn rhoi nerth i
Hanner Marathon Cymru 2022

Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen GIG swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, yw partner newydd “Powered By” ar gyfer Hanner Marathon Cymru 2022.

Mae’r elusen, sy’n ceisio gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i iechyd, llesiant a phrofiad cleifion y GIG, defnyddwyr gwasanaeth a staff ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro, yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd cyffrous i’w chefnogwyr ar draws holl ddigwyddiadau Penwythnos Cwrs Hir.

Mae Hanner Marathon Cymru, a gynhelir ar 3ydd Gorffennaf, wedi’i chydnabod fel un o’r rasys gorau a mwyaf heriol. Gyda golygfeydd godidog o’r môr a thir tonnog, anodd, mae’r digwyddiad yn dechrau yng Nghastell Penfro ac yn gorffen yn Ninbych-y-pysgod.

Mae’r Marathon yn rhan o Benwythnos y Cwrs Hir a gynhelir ar 1af-3ydd Gorffennaf, a dyma’r ŵyl aml-chwaraeon fwyaf yn Ewrop, gan ddenu dros 10,000 o athletwyr a 35,000 o gefnogwyr o 45 o wledydd. Mae digwyddiadau’n cynnwys Nofio Cymru, The Wales Sportive (beicio) a Digwyddiadau i Blant.

Dywedodd Tara Nickerson, Rheolwr Codi Arian yr elusen: “Rydym mor gyffrous i fod yn gweithio gyda Activity Wales Events fel partner newydd “Powered by” ar gyfer Hanner Marathon Cymru 2022. Bydd y bartneriaeth hon yn rhoi’r cyfle i’n cefnogwyr gymryd rhan mewn digwyddiadau ar draws y Penwythnos Cwrs Hir cyfan wrth godi arian ar gyfer ein GIG lleol. Edrychwn ymlaen at eich gweld chi yno!”

Dywedodd Matthew Evans, Prif Weithredwr Penwythnos Cwrs Hir, “Rydym bob amser yn dathlu partneriaethau gwaith newydd, ac yn fwy na dim, elusennau lleol. Mae Hanner Marathon Cymru yn ddigwyddiad arbennig i gynifer o bobl ac rydym wrth ein bodd y byddwn gyda’n gilydd yn codi arian hanfodol ar gyfer achos mor wych.”

Fel rhan o’u partneriaeth unigryw mae gan Elusennau Iechyd Hywel Dda gynigion nofio, beicio a rhedeg ar gael i godwyr arian – ond mae ceisiadau’n gyfyngedig ac yn cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i’r felin. Gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn cymryd rhan gysylltu â Thîm Elusennau Iechyd Hywel Dda dros y ffôn ar 01267 239815 neu drwy e-bost yn codiarian.HywelDda@wales.nhs.uk.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here