17.9 C
Llanelli
Thursday, August 27, 2026
Home Food Lle amlwg ar gyfer bwyd a diod o Gymru mewn digwyddiad mawr...

Lle amlwg ar gyfer bwyd a diod o Gymru mewn digwyddiad mawr yn Dubai

0
573
HilltopHoney
HilltopHoney

Bydd cynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru yn arddangos eu cynnyrch yn Dubai ym mis Chwefror yn Gulfood, un o arddangosfeydd masnach bwyd a diod mwyaf y byd.

Mae’r digwyddiad yn nodi cyfle arwyddocaol i fusnesau Cymru yn y sector deithio i ddigwyddiad byd-eang mawr.

Mae Gulfood yn ddigwyddiad pump diwrnod a gynhelir rhwng 13–17 Chwefror yng Nghanolfan Fasnach y Byd, Dubai. Bydd brandiau rhyngwladol yn arddangos eu cynnyrch a’u gwasanaethau bwyd a diod diweddaraf. Mae’r arddangosfa’n denu dros 5,000 o gyflenwyr, o 198 o wledydd ledled y byd, sy’n awyddus i ddarganfod cyfleoedd newydd yn y farchnad, cwrdd â chyflenwyr, samplu bwydydd newydd a dysgu am y ffasiynau coginio diweddaraf.

Gyda chymorth gan Lywodraeth Cymru, bydd wyth cwmni o bob rhan o’r diwydiant bwyd a diod yng Nghymru yn mynychu Gulfood 2022, gyda phob un ohonynt yn ceisio cyrraedd marchnadoedd allforio newydd.

Mae gan Gymru gysylltiad hir â Gulfood, ac mae hyn wedi helpu i hyrwyddo amrywiaeth o gynnyrch o Gymru yn ardal y Gwlff.

Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, Lesley Griffiths: “Mae sector bwyd a diod Cymru yn un y gallwn ni fod yn falch ohono, ac mae angen inni sicrhau bod pawb yn gwybod amdano. Mae’n bwysig ein bod yn parhau i fod yn weledol ac yn arddangos y cynhyrchion arloesol sy’n cael eu gwneud yma yng Nghymru mewn digwyddiadau masnach byd-eang allweddol.

“Mae Gulfood yn darparu platfform cryf ar gyfer gwerthu cynnyrch o Gymru ledled y byd. Mae’n bwysicach nag erioed ein bod yn hyrwyddo cynhyrchion bwyd a diod o Gymru ac yn cefnogi busnesau ym mhob ffordd y gallwn ni. Byddwn ni’n parhau i helpu cwmnïau o Gymru i feithrin perthnasau gweithio cryf fel y gallant ddysgu am dechnolegau newydd, archwilio marchnadoedd tramor a bod yn gystadleuol o fewn eu diwydiant.”

Y cwmnïau o Gymru sy’n arddangos yn Gulfood yw Dairy Partners, Rachel’s Dairy, Mario’s Ice Cream, Calon Wen, Hilltop Honey, Old Coach House Distillery, Morning Foods a Thŷ Nant.

Y cwmni o Sir Fynwy, Old Coach House Distillery, yw distyllfa ddi-alcohol gyntaf y byd, ac maent yn gobeithio y bydd Gulfood yn arwain at gyfleoedd newydd iddynt yn y Dwyrain Canol. Maent yn lansio eu brand ‘Stillers’ ar draws safleoedd masnach yn yr Emiraethau Arabaidd Unedig, ac maent bellach yn teimlo bod eu busnes yn barod i gefnogi hyn drwy arddangos yn Gulfood.

Dywedodd Cameron Mackay, y Cyfarwyddwr Gwerthu a Marchnata: “Mae arddangos ein dau frand di-alcohol, botanegol gerbron y farchnad yn yr Emiraethau Arabaidd Unedig yn destun cryn gyffro inni. Rydyn ni’n credu y bydd y rhai sy’n bresennol yn Gulfood yn barod iawn i dderbyn ein brand ac yn gobeithio y gallwn ni gwrdd â llawer o gwsmeriaid newydd.

“Rydyn ni am ehangu ein gorwelion ynghylch y potensial yn y farchnad ar gyfer diodydd di-alcohol/alcohol isel yng ngwledydd Cyngor Cydweithredol y Gwlff. Rydyn ni hefyd yn obeithiol y bydd ein brand yn cael ei groesawu gan ein cynulleidfa darged”

Cwmni arall sy’n chwilio am gyfleoedd busnes newydd yn y farchnad ddomestig a’r farchnad ryngwladol ar gyfer eu cyfres sefydledig o rawnfwydydd, Mornflake Mighty Oats, yw prif Felinydd Ceirch Ewrop, Morning Foods ym Mwcle.

Dywedodd Pennaeth Gwerthiannau’r cwmni, Richard Jones: “Byddwn ni’n lansio ein cynnyrch newydd ‘Oatmade’, ceirch sawrus microdon mewn pecynnau a photiau mewn blasau cyffrous newydd, sy’n cynnig opsiwn arall i reis. Ychwanegiad gwirioneddol arloesol a chyffrous i’r gyfres sy’n mynd â’r geirchen ddiymhongar mewn cyfeiriad hollol newydd.

“Gulfood fydd un o arddangosfeydd mawr cyntaf 2022. Bydd yn rhoi cyfle perffaith inni arddangos ein cynnyrch i gynulleidfa fyd-eang a chyfle gwych i gwrdd â chwsmeriaid newydd.”

Hefyd yn Gulfood yn arddangos eu hamrediad amrywiol o fêl o bob cwr o’r byd bydd Hilltop Honey o’r Drenewydd.

Dywedodd y Rheolwr Gyfarwyddwr, Scott Davies: “Rydyn ni wedi penderfynu mynychu digwyddiad Gulfood gan ein bod yn ceisio meithrin presenoldeb yn yr Emiraethau Arabaidd Unedig a Saudi. Yn ogystal, mae’n dir canol gwych ar gyfer cwrdd â darpar gwsmeriaid ledled y byd. Rydyn ni’n gobeithio gwneud ein brand yn fwy amlwg, gan gynyddu ei ddosbarthiad yn y gwledydd rydyn ni eisoes yn gweithredu ynddyn nhw ond hefyd cael mynediad at farchnadoedd newydd.”

Mae Cymru wedi bod yn genedl fasnachu lwyddiannus ers cryn amser, gyda nwyddau a gwasanaethau’r wlad yn ennill gwobrau ac yn cael eu hallforio ledled y byd. Fel rhan o Raglen Lywodraethu a Strategaeth Ryngwladol Llywodraeth Cymru, a’i Chynllun Gweithredu ar Allforio, yr uchelgais yw cynyddu gwerth allforion ymhellach byth, drwy gefnogi rhagor o gwmnïau o Gymru i allforio eu cynnyrch i farchnadoedd newydd ledled y byd.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.