9.1 C
Llanelli
Sunday, October 11, 2026
Home Newyddion Lle Safonau Masnach yn ailuno gast fach a gafodd ei dwyn â’i pherchennog

Safonau Masnach yn ailuno gast fach a gafodd ei dwyn â’i pherchennog

0
406
Trading Standards
Trading Standards

Mae swyddogion Safonau Masnach Cymru yn Sir Fynwy wedi ailuno Diva â’i pherchnogion – wyth mis ar ôl iddi gael ei dwyn o Wigan.

Gwnaeth Swyddogion Trwyddedu Anifeiliaid adnabod y Daschund lelog a than yn ystod gwiriadau cyn-trwyddedu ar ôl derbyn cais i fridio cŵn.

Ddydd Mercher, 26 Ionawr, cyflwynwyd gwŷs gan yr Heddlu yn yr eiddo dan sylw. Roedd hi wedi cael ei dwyn o gar pan oedd hi’n ast fach bedwar mis oed ym mis Mai 2021.

Roedd Swyddogion yn cyflawni gwiriadau yn ôl eu trefn cyn archwiliad, fel rhan o raglen well sydd â gwiriadau bridio ychwanegol ac a noddir gan Brosiect Gorfodi Llywodraeth Leol Llywodraeth Cymru.

Gwnaeth gwiriad microsglodyn cyn-ymgeisio ddarganfod fod yr ast, yr oedd y bridiwr yn ei galw’n “Mrs Blue”, yn un a oedd wedi cael ei hadrodd o fod wedi ei dwyn fisoedd ynghynt. Mae Heddlu Gwent wedi agor archwiliad o dan Ddeddfau Dwyn.

Dywedodd Gareth Walters, Arweinydd Strategol dros Iechyd Anifeiliaid, Safonau Masnach Cymru,: “Mae’r fasnach cŵn bach a chŵn wedi cynyddu dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf ac mae hyn yn dangos yr angen am archwiliadau a gweithredu’r orfodaeth briodol. Rwyf wrth fy modd fod yr ast hon wedi ei hailuno â’i pherchennog cywir. Mae Safonau Masnach ledled Cymru yn parhau i weithio’n ddiwyd i sicrhau bod bridwyr cŵn yn cadw at y rheolau.”

Dywedodd Zoe Phillips, Swyddog Arwain ar gyfer y Prosiect Bridio Cŵn: “Mae Diva wedi ei dychwelyd at ei pherchnogion mewn aduniad emosiynol a ddaeth â deigryn i lygaid ein swyddogion hyd yn oed. Mae hwn yn ganlyniad ffantastig i’r tîm ac rydym ni mor falch fod y microsglodyn wedi adnabod yr ast goll hon.”

Mae Safonau Masnach yn cynghori holl berchnogion cŵn i sicrhau bod gwybodaeth microsglodyn yn gyfredol ac maen nhw’n annog unrhyw un sy’n ddrwgdybus am fridiwr cŵn i roi gwybod am y mater ar unwaith gan ddefnyddio Crime Stoppers  0800 555 111


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond

Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.