
Wrth ymateb i’r newyddion bod Comisiynydd y Gymraeg, Aled Roberts, wedi marw, dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros y Gymraeg, Heledd Fychan AS:
“Roedd parch aruthrol i Aled ar draws y pleidiau gwleidyddol fel cyn Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Wrecsam, cyn Aelod Cynulliad ac yna fel Comisiynydd y Gymraeg.
“Roedd yn angerddol dros yr Iaith, a’r defnydd ohoni yn ein bywydau bob dydd, a bydd colled fawr ar ei ôl.
“Hoffwn ar ran Plaid Cymru yrru ein cydymdeimlad dwysaf at ei deulu a’i ffrindiau heddiw, a diolch am ei gyfraniad i’r genedl.”
| [donate] | Help keep news FREE for our readersSupporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. |













