7.5 C
Llanelli
Saturday, March 14, 2026
Home Newyddion Lle Sesiynau ar-lein am ddim yn cynnig cyfle i wybod mwy am radd...

Sesiynau ar-lein am ddim yn cynnig cyfle i wybod mwy am radd ran-amser 

0
466
RAy Collier scaled
RAy Collier scaled

Os ydych yn ystyried ailgydio yn eich addysg neu’n dymuno cael blas ar astudio, bydd Prifysgol Abertawe’n cynnig cyfres o sesiynau am ddim i roi profiad uniongyrchol i chi.

Cynhelir cyfres o sesiynau rhagflas tair wythnos y mis nesaf a fydd yn galluogi pobl i gael blas ar gynnwys y rhaglen BA ran-amser yn y Dyniaethau.

Nod y radd yw rhoi cyfle i fyfyrwyr astudio amrywiaeth eang o feysydd pwnc y dyniaethau ar y campws ac yn y gymuned dros chwblynedd.

Ar gyfer Julie James, o Lanelli, bu dilyn y BA yn hwb i’w hyder ac arweiniodd at lwybr gyrfa newydd sbon.

Ar ôl cydbwyso gofynion swydd amser llawn a phedwar plentyn oedran ysgol, graddiodd hi gydag anrhydedd dosbarth cyntaf ac ar ben hynny mae hi bellach wedi dewis astudio am Dystysgrif Addysg i Raddedigion.

Meddai: “Roedd fy mhlant a’m gŵr i gyd yn hapus gyda’u clybiau a’u gweithgareddau ac roeddwn i’n teimlo bod angen i fi wneud rhywbeth drosta i fy hun. Felly pan glywais i am y radd BA ran-amser, penderfynais i roi cynnig arni.

“Roedd ymrwymiad chwe blynedd i’w weld yn heriol, felly penderfynais i pe bawn i’n gwneud yn dda ac yn mwynhau’r cwrs y byddwn yn cofrestru am y flwyddyn nesaf. Cyn i fi sylweddoli, roeddwn i’n ysgrifennu fy nhraethawd hir!”

Ychwanegodd Julie: “Roedd y radd ran-amser yn gyfle fforddiadwy i gael cymhwyster lefel uwch. Roedd y tiwtoriaid i gyd yn wych, yn gefnogol iawn ac yn gadarnhaol. Roedd cymysgedd o fyfyrwyr yn y dosbarth o gefndiroedd amrywiol a oedd yn gwneud y cwrs am resymau gwahanol. Oherwydd hynny, roedd y dosbarthiadau a’r trafodaethau’n ddiddorol iawn ac roeddwn i’n edrych ymlaen atyn nhw bob amser.”

Mae ei phrofiad yn cael ei hadleisio gan Ray Collier, a ddechreuodd y radd ran-amser wrth iddo baratoi i ymddeol yn gynnar.

Meddai: “Gan fy mod i wedi graddio oddeutu 40 o flynyddoedd yn ôl, roeddwn i’n teimlo bod hynny’n amser rhy hir i fynd yn syth i ragle gradd meistr, yn enwedig gan fod fy niddordeb mewn hanes, lle roedd ymchwil newydd wedi newid y pwnc yn sylweddol.”

Fodd bynnag, ar ôl graddio’n llwyddiannus, mae Ray, o Donnau yng Nghastell-nedd, bellach yn ail flwyddyn gradd MA ran-amser.

“Yn wahanol i rai o’r myfyrwyr, nid yw’r cwrs wedi arwain at swydd neu yrfa newydd i fi ond mae dysgu yn ystod fy ymddeoliad wedi fy nghadw’n brysur, wedi fy ymestyn yn academaidd ac yn ddeallusol ac wedi bod yn bwysig yn gymdeithasol – mae perygl y byddwch chi’n ynysu eich hun pan fyddwch chi’n ymddeol.”

Meddai Dr Alison Walker, Cyfarwyddwr y Rhaglen: “Rydyn ni’n teimlo ein bod ni wedi creu rhaglen ran-amser arloesol, ddeinamig a hyblyg a fydd yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ddatblygu’r sgiliau, yr wybodaeth a’r profiad a all agor drysau i ddyfodol disglair.

“Mae’r sesiynau rhagflas hyn yn berffaith os ydych chi’n oedolyn sy’n ystyried ailgydio yn eich addysg ac yn dymuno gwybod a yw’r cwrs gradd yn addas i chi.”

Gan dynnu ar hanes, llenyddiaeth, cymdeithas a gwleidyddiaeth de Cymru, bydd y dosbarthiadau yn eich cyflwyno i astudio ar lefel prifysgol drwy ddarlithoedd, seminarau a thrafodaethau gafaelgar.

Gall myfyrwyr ddewis a dethol y pynciau sy’n mynd â’u bryd hwy er mwyn cael dealltwriaeth fwy cyflawn o’r hyn y gallai’r rhaglen radd ran-amser ei gynnig.
Darllenwch am y radd BA ran-amser ac e-bostiwch i ofyn am becyn cais, a fydd ar gael o fis Mai 2022.

Mae Prifysgol Abertawe hefyd yn cynnig cyrsiau rhagflas byr eraill ar-lein. E-bostiwch i gael rhagor o fanylion.  


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.