9.7 C
Llanelli
Wednesday, March 18, 2026
Home Local News Ceredigion News Sialens Gerdded Ceredigion

Sialens Gerdded Ceredigion

0
411
Sialens Gerdded Ceredigion
Sialens Gerdded Ceredigion

Oes gennych chi ddiddordeb i archwilio rhai o olygfeydd harddaf Ceredigion, o glogwyni gwyllt gwyntog i ddyffrynnoedd coediog cysgodol? Beth am gymryd rhan yn Sialens Gerdded newydd Ceredigion?

Mae tîm Arfordir a Chefn Gwlad Cyngor Sir Ceredigion wedi sefydlu sialens newydd i gynyddu nifer y bobl sy’n archwilio llwybrau Hawliau Tramwy Cyhoeddus Ceredigion yn ogystal â chynyddu iechyd a lles pobl.

O hanner tymor mis Chwefror, bydd amryw o deithiau cerdded ar draws y sir yn cael eu cyhoeddi’n wythnosol ar dudalennau cyfryngau cymdeithasol corfforaethol y Cyngor. Bydd tair sialens gan gynnwys sialens 10 milltir, 50 milltir a 100 milltir yn ogystal â rhestr o deithiau cerdded mynediad hygyrch/haws. Bydd y teithiau cerdded i gyd yn hunan dywysedig.

Mae dros 2500km o Hawliau Tramwy Cyhoeddus yn croesi Ceredigion o lwybrau hir i lwybrau byr, felly yn ystod y gwanwyn a’r haf dylai fod rhywbeth i bawb ei fwynhau.

Gall cerddwyr gael copi e-daflen o’r llwybrau i helpu i’w harwain ar eu ffordd sydd ar gael o’r Adran Hawliau Tramwy Cyhoeddus ar wefan y Cyngor. Mae’r rhain wedi’u cysylltu â thref, pentref neu bentrefan ac yn dangos gwybodaeth ychwanegol megis proffil o’r llwybr, y pellter, sut wyneb sydd i’r llwybr, mannau parcio cyfleus ac a oes cyfleusterau eraill wrth law.

Atgoffir y sawl sy’n defnyddio Llwybrau Hawliau Tramwy Cyhoeddus fod y llwybrau hyn yn croesi tir preifat a bod angen dilyn y Côd Cefn Gwlad drwy’r amser. Dylai cerddwyr wisgo esgidiau cadarn a dillad sy’n briodol i’r tywydd a chymryd dŵr yfed.

Dilynwch ni ar Facebook a Twitter ar @CSCeredigion yn Gymraeg ac @CeredigionCC yn Saesneg ac @CaruCeredigion ar Instagram i gymryd rhan yn y sialens. Mae rhagor o wybodaeth am y sialens ar gael ar y wefan: www.ceredigion.gov.uk/sialensgerdded

I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost at clic@ceredigion.gov.uk neu ffoniwch 01545 570881 a gofynnwch am gael siarad ag aelod o dîm yr Arfordir a Chefn Gwlad.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.