Mae Ian Williams, codwr arian, wedi casglu topiau poteli llaeth plastig i godi arian ar gyfer saith cadair olwyn newydd i Ysbyty Glangwili 

0
372
Staff with chairs
Staff with chairs

Mae Ian Williams, codwr arian, wedi casglu topiau poteli llaeth plastig i godi arian ar gyfer saith cadair olwyn newydd i Ysbyty Glangwili

Mae ysgolion cynradd ledled Sir Gaerfyrddin, yr ysbyty lleol, busnesau lleol a ffrindiau yn helpu Ian i gasglu dros bum tunnell o dopiau poteli llaeth

Rhoddwyd dwy gadair olwyn yn 2019 a phum cadair olwyn arall ym mis Rhagfyr 2021 i’r Uned Therapi Galwedigaethol yn Uned Ddydd y Priordy, Ysbyty Glangwili, diolch i Ian Williams a gasglodd topiau poteli llaeth plastig i godi arian.

Casglodd Ian, o Dalog, dros bum tunnell o dopiau poteli llaeth plastig a werthodd i ddyn busnes lleol, gan godi’r arian oedd ei angen i brynu’r cadeiriau olwyn newydd.

Meddai Ian: “Flynyddoedd yn ôl clywais am gynllun a oedd yn cyfnewid topiau poteli llaeth plastig am gadeiriau olwyn. Fe’m hysgogodd i ddechrau casglu o wahanol ffynonellau, ffrindiau’n bennaf i ddechrau, ond cyrhaeddodd y newyddion sawl ardal a gorffennodd drwy gasglu o bron bob ysgol gynradd yn Sir Gaerfyrddin, yr ysbyty lleol, y siopau coffi cyfagos, hyd yn oed rhai siopau trin gwallt, ond yn bennaf gan ffrindiau da a gefnogodd y cynllun o’r cychwyn cyntaf.

Ian-Williams-Wheelchairs-

“Cyn-COVID, cyflwynwyd dwy gadair olwyn i adran Therapi Galwedigaethol Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin. Roedd gan y cadeiriau olwyn logo eingion ar y ddwy ochr a oedd yn cael ei ddangos i ddisgyblion yr ysgol gynradd. Mae’r logo yn symbol o’r efail sy’n eiddo i mi ym mhentref Talog. Hwn oedd yr arwydd i blant yr ysgol edrych amdano wrth weld unrhyw gadeiriau olwyn.

“Yn anffodus, daeth y cynllun i ben a chefais fy ngadael gydag oddeutu pump i chwe thunnell o dopiau. Ar ôl ychydig dechreuodd y bagiau oedd yn cynnwys y topiau ddadelfennu gyda golau’r haul ac roedd y topiau’n cael eu chwythu gan y gwynt. Yn ffodus, cynigiodd dyn busnes lleol brynu’r topiau a threfnu i’w weithlu ail-fagio’r topiau, ac o’r arian a godwyd prynwyd pum cadair olwyn arall yn dangos y logo einion eto.

“Cafodd y cadeiriau olwyn newydd hyn eu cyflwyno i Elusennau Iechyd Hywel Dda ychydig cyn Nadolig 2021.”

Dywedodd Carol Anne Davies, Arweinydd Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol ym Mwrdd Iechyd Hywel Dda: “Bydd y cadeiriau hyn yn cael effaith fawr ar ein cleifion; bydd eu defnydd mewn adsefydlu a chynyddu annibyniaeth claf yn gwella ansawdd bywyd unigolion yn aruthrol ac yn caniatáu iddynt wneud yr hyn sy’n bwysig iddynt.”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here