18.2 C
Llanelli
Thursday, September 3, 2026
Home Pembrokeshire National Park Cyfyngiadau newydd ar y gweill ar fynediad i lithrffordd Freshwater East

Cyfyngiadau newydd ar y gweill ar fynediad i lithrffordd Freshwater East

0
501
FWE Slipway 030322
FWE Slipway 030322

Ni fydd aelodau o’r cyhoedd yn gallu defnyddio’r llithrffordd yn Freshwater East ar gyfer cychod sy’n cael eu lansio gan gerbyd rhwng 4 Ebrill a 30 Medi 2022, yn dilyn blynyddoedd o bryder cyffredinol ynghylch diogelwch pawb sy’n defnyddio’r dŵr yn yr ardal.

Bydd y rhwystr ar ben y llithrffordd, sy’n eiddo i Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, yn cael ei gloi a dim ond i Glwb Badwyr a Physgotwyr Freshwater East, y gwasanaethau brys, ac ar gyfer gwaith hanfodol fel glanhau’r traeth y bydd mynediad yn cael ei roi.

Dywedodd Prif Weithredwr Awdurdod y Parc Cenedlaethol, Tegryn Jones: “Mae’r newidiadau hyn wedi cael eu gwneud ar ôl ymgynghori â rhanddeiliaid a phryder cyffredinol ymysg trigolion lleol, ymwelwyr a chyrff cyhoeddus, ac maen nhw’n dod yn sgil defnyddio amddiffyniad diogelwch ar y llithrffordd dros y ddau haf prysur diwethaf.

“Mae pob cam wedi cael ei gymryd gyda diogelwch defnyddwyr y traeth mewn golwg ac i sicrhau bod pobl sydd â chychod personol yn defnyddio lleoliadau mwy addas, fel Dyfrffordd Aberdaugleddau.”

Mae’r mynediad i gerddwyr wedi cael ei ledu a’i wella i un ochr o rwystr y llithrffordd er mwyn i’r cyhoedd barhau i ddefnyddio’r llithrffordd ar droed ac ar gyfer lansio cychod bach, fel caiacs, â llaw. Mae lle ar ben y llithrffordd i un cerbyd stopio a dadlwytho. Ar ôl ei ddadlwytho, rhaid i’r cerbyd symud a pharcio yn y maes parcio.

Bydd y rheini sydd ag allweddi yn gallu parcio cerbydau a threlars ar y traeth o hyd, i’r de (dde) o’r llithrffordd tra byddant ar y dŵr yn eu cwch.

Am fwy o wybodaeth e-bostiwch gwybodaeth@arfordirpenfro.org.uk neu ffoniwch 01646 624800.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.