17.9 C
Llanelli
Friday, August 28, 2026
Home Newyddion Lle Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi’r buddsoddiad mwyaf erioed i leihau perygl llifogydd

Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi’r buddsoddiad mwyaf erioed i leihau perygl llifogydd

0
526
welsh government logo vector
welsh government logo vector

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd Julie James wedi datgelu rhaglen lifogydd fwyaf erioed Llywodraeth Cymru, gwerth rhagor na £214m dros dair blynedd

Mae’r Rhaglen Lywodraethu yn ei gwneud yn glir ein bod yn canolbwyntio ar ddeall effeithiau newid yn yr hinsawdd, casglu tystiolaeth i nodi datrysiadau a chyflawni canlyniadau sy’n helpu i wella gwydnwch ein cymunedau, ein heconomi a’n hamgylchedd i gefnogi cenedlaethau’r dyfodol.

Mae hyn yn cynnwys cynnydd yn y buddsoddiad ar gyfer rheoli a lliniaru perygl llifogydd ac erydu arfordirol fel rhan o’r Cytundeb Cydweithredu â Phlaid Cymru.

Datgelodd y Gweinidog y manylion mewn cynhadledd i’r wasg heddiw ar ôl ymweliad â phrosiect £3m yn Aberafan ar gyfer cryfhau’r promenâd a diogelu cartrefi a busnesau rhag stormydd a llifogydd y dyfodol.

Dim ond un llwyddiant hyd yma yw prosiect Aberafan.  Mae gwaith newydd Llywodraeth Cymru llynedd wedi cefnogi ystod eang o waith i leihau’r perygl o lifogydd ac erydu arfordirol i dros 950 o gartrefi a busnesau ledled Cymru – gyda 3,600 arall yn elwa ar waith i gryfhau amddiffynfeydd sydd yno eisoes.

Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd Julie James: “Fel y dywed adroddiad diweddaraf yr IPCC, mae’r hinsawdd yn newid nawr ac yn effeithio eisoes ar fywyd a bywoliaeth miliynau o bobl ym mhob cwr o’r byd.

“Yn ogystal â lleihau’n hallyriadau, rhaid i ni oll weithio gyda’n gilydd i addasu i hinsawdd sy’n newid.

“Cwta fis yn ôl, cawsom dair storm anferth, un ar ôl y llall, yng Nghymru gyda llawer o gymunedau’n dioddef – fuodd hi erioed bwysicach i fuddsoddi i’w hamddiffyn.

“Mae’n dda gen i gyhoeddi felly ein rhaglen lifogydd fwyaf erioed, fydd yn neilltuo £71 miliwn flwyddyn nesaf a £214m dros y tair blynedd nesaf.

“Caiff ei defnyddio i gynnal cynlluniau mawr i leihau llifogydd, nodi anghenion lleol a datblygu prosiectau am  y dyfodol. Bydd ein cyllid hefyd yn helpu i gynllunio’n well at y dyfodol – rydyn ni’n disgwyl ymlaen at gydweithio ag Awdurdodau Rheoli Risg i’w rhoi ar waith ar fyrder ac i gefnogi pobl Cymru.”

Cadarnhaodd y Gweinidog y bydd £24 miliwn yn fwy o refeniw dros y tair blynedd nesaf. Flwyddyn nesaf bydd hynny’n golygu:

  • cynnydd o £1.5m yng nghyllideb Cyfoeth Naturiol Cymru
  • cynyddu’r refeniw y caiff awdurdodau lleol wneud cais amdano hyd i £225,000 yr un
  • estyn y Rhaglen Rheoli Risg Arfordirol presennol i un flwyddyn derfynol

Hefyd, cyhoeddodd y Gweinidog fap yn dangos sut y byddai cyllid rhaglenni cyfalaf yn cael ei wario ledled Cymru a’r ardaloedd a fyddai’n elwa. Bydd cyllid y flwyddyn nesaf o fudd i fwy na 14,500 o eiddo.

Ychwanegodd y Gweinidog: “Mae ein Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol yng Nghymru a gyhoeddwyd yn 2020, ac ymrwymiadau cysylltiedig y Rhaglen Lywodraethu, yn cadarnhau sut rydym yn camu i fyny i ymateb i her y newid yn yr hinsawdd a diogelu ein cymunedau rhag ei effeithiau.

“Yn ogystal â’r strategaeth, rydyn ni wedi cyhoeddi Map Llifogydd Cymru, Cronfa Ddata o Asedau Cenedlaethol a Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio. Mae pob un wedi’i gynllunio i fynd i’r afael ag effeithiau’r hinsawdd.

“Mae’r lefelau buddsoddi uchaf erioed rwy’n eu haddo heddiw yn adlewyrchu’r pwys y mae’r Llywodraeth hon yn ei roi ar reoli perygl llifogydd wrth i ni wella ein dealltwriaeth o’r heriau’r newid yn yr hinsawdd a gweithio gyda’n gilydd i addasu a pharatoi.”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.