14.2 C
Llanelli
Friday, September 25, 2026
Home Farming Manteision gwych i fwyta porc wedi’i fagu ar borfa sy’n llawn porthiant

Manteision gwych i fwyta porc wedi’i fagu ar borfa sy’n llawn porthiant

0
436
unnamed 10 scaled
unnamed 10 scaled

Mae treialon ymchwil diweddar wedi dangos bod porc a fagwyd ar borfa gyfoethog o borthiant yn cynnwys cynnydd sylweddol mewn asid a-linolenig (ALA), math o asid brasterog omega 3 a geir mewn hadau ac olew i gymharu â phorc a fagwyd ar badog hesb.

Roedd y canfyddiadau hyn yn ganlyniad i brosiect ymchwil newydd a gynhaliwyd gan Menter Moch Cymru a Cyswllt Ffermio ar Fferm Forest Coalpit. Bwriad y prosiect, a chafodd ei arwain gan Gyswllt Ffermio oedd cymharu ansawdd cig moch o ddau grŵp, un yn cael ei fagu ar gyfuniad o borthiant a dwysfwyd a’r llall ar ddwysfwyd yn unig.

Bu Cyfarwyddwr y cwmni ymgynghori rheoli ansawdd bwyd FQM Global, Caroline Mitchell, yn goruchwylio’r prosiect gyda dadansoddiad pellach o’r porc yn cael ei wneud gan y Ganolfan Technoleg Bwyd yn Llangefni.

Trafodwyd canlyniadau’r prosiect mewn gweminar yn ddiweddar gan Caroline Mitchell o FQM Global:

“Gan nad yw moch yn gallu syntheseiddio ALA, mae’r cynnydd yn yr asid brasterog hanfodol n-3 neu omega 3 yn ganlyniad uniongyrchol i ychwanegu’r porthiant at y diet.

“Mae manteision lluosog i ddefnyddwyr dynol o fwyta cynhyrchion sy’n cynnwys ALA, er enghraifft, atal trawiad ar y galon, gostwng pwysedd gwaed uchel, gostwng colesterol a gwrthdroi caledu’r pibellau gwaed.

Dywedodd Melanie Cargill, Rheolwr Prosiect Menter Moch Cymru: “Mae’r prosiect wedi bod yn gyfle gwych i edrych ar yr effeithiau y gall gwahanol ddietau eu cael ar ansawdd porc a gobeithio yn y dyfodol y gallai’r canlyniadau arloesol ychwanegu gwerth at y cynnyrch. .

“Dyma’r prosiect cyntaf o’i fath ac mae’n galonogol gweld bod gwahaniaethau sylweddol yn y porc wedi’u nodi. Bydd angen gwneud mwy o ymchwil yn y maes hwn, ac felly gobeithio y bydd canlyniadau’r astudiaeth hon yn gatalydd ar gyfer ymchwil pellach.”

Mae ansawdd eu porc yn bwysig iawn i Kyle Holford a Lauren Smith o Forest Coalpit Farm sy’n rhedeg eu 20 porchell eu hunain i besgi cenfaint o’u brid eu hunain o foch Du Cymreig (Du Mawr X Duroc) ar dir pori a choetiroedd ar eu fferm yn y Bannau Brycheiniog.

Maent yn cigydda ac yn gwerthu eu cynnyrch yn uniongyrchol i gwsmeriaid mewn blychau porc a hefyd yn cyflenwi bwytai a chigyddion sydd wedi ennill gwobrau.

Dywedodd Kyle Holford: “Rwy’n aml yn eistedd yn bwyta rhywfaint o’n porc ac yn meddwl pam ei fod yn blasu mor wych, yn amlwg mae’n amrywiaeth o ffactorau; brid, maes, rheolaeth a diet. Roeddwn i eisiau gwneud y prosiect hwn er mwyn darganfod pa rôl oedd gan borthiant ar flas a meintioli’r buddion a ddaw yn ei sgil.

“Roedd ein prif ffocws ar ddadansoddi’r brasterau gan mai dyma le mae’r gwahaniaeth i’w weld ar rywogaethau eraill. Yn ogystal â hyn fe wnaethom bwyso’r moch drwyddo draw i weld os yw porthiant yn dod ag unrhyw fanteision cynhyrchu hefyd. O’r prosiect hwn rydym yn gobeithio dysgu gwerth porthiant mewn magu moch yn yr awyr agored boed hynny o fudd cynhyrchu, blas neu atafaeliad carbon a buddion amgylcheddol,” ychwanegodd.

Edrychodd y prosiect ar fynd i’r afael â’r awydd cynyddol gan ddefnyddwyr i weld ansawdd ac olrheinedd yn eu cynnyrch.

“Mae wedi bod yn hynod ddiddorol edrych ar y berthynas rhwng bwydo moch a’r effaith y mae’n ei gael ar ansawdd cig a braster. Rwy’n dal i ryfeddu mai dyma’r prosiect cyntaf o’r math hwn. Ac mae darganfod ei fod yn effeithio ar y braster ac yn gwneud cynnyrch iachach yn rhyfeddol. Mae hyn yn dangos bod hyd yn oed mwy o fudd i fagu moch y tu allan ar laswellt, a gall cynhyrchwyr eraill ddefnyddio hwn i’w fesur ac ychwanegu gwerth at gynnyrch sydd eisoes yn wych. Diolch yn fawr iawn i Menter Moch Cymru a Cyswllt Ffermio am y cyfle i wneud hyn,” ychwanegodd Kyle.

Dywedodd Dafydd Owen, Swyddog Technegol Moch Cyswllt Ffermio:

“Gyda’r sefyllfa fregus y mae’r diwydiant moch ynddi ar hyn o bryd, mae canlyniadau’r prosiect yn wych er mwyn ychwanegu gwerth drwy gynnig pwynt gwerthu unigryw i gynnyrch Forest Coalpit Farm. Mae buddion iechyd ac amgylcheddol o besgi moch ar borfa yn gyd- fynd gyda’r cynnydd yn yr awydd i weld ansawdd ac olrheinedd mewn cynnyrch.”

Ariennir Menter Moch Cymru gan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020 a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.