11.6 C
Llanelli
Sunday, May 17, 2026
Home Newyddion Lle Datganiad gan Lywodraeth Cymru: Parc Ynni Baglan

Datganiad gan Lywodraeth Cymru: Parc Ynni Baglan

0
369
Screen Shot 2016 09 14 at 12.37.29
Screen Shot 2016 09 14 at 12.37.29
Welsh Government News

Yn dilyn fy natganiad ar 22 Mawrth 2022 ar Barc Ynni Baglan, mae Llywodraeth Cymru bellach wedi cael caniatâd i apelio yn erbyn y penderfyniad a wnaed yn yr Uchel Lys.  Yr wyf yn awr yn cymryd y camau angenrheidiol i ffeilio’r apêl honno, erbyn dydd Llun 4 Ebrill, yn unol â’r Gorchymyn Llys.

Ar yr un pryd ag y rhoddwyd caniatâd i apelio, mae Barnwr yr Uchel Lys yn y mater hwn hefyd wedi gorchymyn bod pŵer i Barc Ynni Baglan yn cael ei gynnal hyd nes y penderfynir ar ganlyniad yr apêl honno.

Byddwn yn parhau i weithio gyda’r holl bartïon perthnasol i geisio sicrhau ateb i’r risgiau sylweddol iawn o iechyd y cyhoedd a niwed amgylcheddol gan gynnwys mwy o berygl llifogydd (yn ogystal â’r risgiau i’r economi leol) y byddai terfynu’r cyflenwad ynni gwifren preifat yn ei greu i fusnesau a dinasyddion ym Maglan, cyn i’r rhwydwaith dosbarthu newydd fod ar waith.

Byddaf yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau am unrhyw ddatblygiadau pellach.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here