10.5 C
Llanelli
Wednesday, February 25, 2026
Home Other areas Carmarthenshire County Council  Ffarwelio â Chadeirydd Panel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys

 Ffarwelio â Chadeirydd Panel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys

0
503
alunjones
alunjones

MAE Cadeirydd Panel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys wedi camu i lawr yn dilyn ei ymddeoliad fel cynghorydd sir lleol.

Roedd y Cynghorydd Alun Lloyd Jones, o Gyngor Sir Ceredigion, wedi gwasanaethu ar y Panel ers iddo gael ei greu yn 2012, fel Is-gadeirydd yn gyntaf ac fel Cadeirydd ers 2017.

Ar ôl cysylltiad hir â phlismona, sy’n dyddio’n ôl i’w gyfnod fel cwnstabl gwirfoddol gyda Heddlu Gogledd Cymru yn y 1970au, defnyddiodd y Cynghorydd Lloyd Jones lawer o’i amser yn arwain Panel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys i hyrwyddo gwell plismona gwledig.

Cyn iddo ymddeol, dywedodd: “Hoffwn ddiolch i bawb rwyf wedi cael y pleser o weithio gyda nhw yn ystod fy nghyfnod ar y Panel, a dymuno pob llwyddiant a hapusrwydd iddynt yn y dyfodol.”

Ar ôl yr Etholiadau Lleol ar 5 Mai, ac yn dilyn trafodaethau o fewn y pedwar awdurdod lleol a gynrychiolir, cyhoeddir aelodaeth newydd Panel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys.

Penodir Cadeirydd ac Is-gadeirydd newydd yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol nesaf ym mis Gorffennaf.

Mae’r Panel yn cynnwys aelodau a enwebwyd gan Gynghorau Sir Caerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys ynghyd â dau aelod annibynnol.

Mae gan y Panel ddyletswyddau statudol allweddol, gan gynnwys dwyn i gyfrif Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, craffu ar ei benderfyniadau a’i weithredoedd, cymeradwyo cyllidebau blynyddol, ac, os oes angen, adolygu’r bwriad i benodi neu ddiswyddo’r Prif Gwnstabl ac uwch benodiadau eraill yr heddlu.

Bydd yr Aelodau yn mynychu a chymryd rhan mewn cyfarfodydd rheolaidd yn ogystal â chymryd rhan yn broses o wneud penderfyniadau, creu adroddiadau a gwneud argymhellion i’r Comisiynydd.

Ewch i www.panelheddluathroseddudp.cymru i gael rhagor o wybodaeth am y Panel, ei aelodaeth, dyddiadau cyfarfodydd sydd ar y gweill, agendâu a chysylltiadau gweddarlledu, yn ogystal â chyflwyno cwestiynau i’r Panel eu rhoi gerbron y Comisiynydd.

Gellir cyflwyno cwestiynau ar-lein, neu’n ysgrifenedig drwy anfon neges e-bost at panelheddluathroseddudp@sirgar.gov.uk o leiaf 10 diwrnod cyn cyfarfod.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.