9.7 C
Llanelli
Thursday, February 26, 2026
Home Local News Ceredigion News Llwyddiant i dimau rygbi ysgolion Ceredigion yn Stadiwm Principality

Llwyddiant i dimau rygbi ysgolion Ceredigion yn Stadiwm Principality

0
526
Llwyddiant Tim Rygbi Merched Ysgol Bro Teifi
Llwyddiant Tim Rygbi Merched Ysgol Bro Teifi

Yn ddiweddar, mae rhai o dimau rygbi ysgolion Ceredigion wedi bod yn cystadlu ar lefel genedlaethol yn y digwyddiad ‘Road to Principality’ a gynhaliwyd yn Stadiwm Principality, Caerdydd.

Bu dathlu mawr yn Ysgol Bro Teifi ddydd Llun 25 Ebrill yn dilyn llwyddiant eu tîm rygbi merched o dan 14 oed ar lefel genedlaethol. Yn dilyn buddugoliaethau mewn cyfres o gemau ar lefel ranbarthol a chenedlaethol yn ystod y misoedd diwethaf, cafodd y tîm gyfle i chwarae yn y gêm derfynol genedlaethol yn Stadiwm Principality yn erbyn Ysgol Brynhyfryd, Sir Ddinbych.

O flaen torf o ryw 150 o gefnogwyr a oedd wedi teithio i Gaerdydd i weld y gêm, llwyddodd Bro Teifi i ennill o 34-19 mewn gêm gystadleuol a chyflym. 

Mr Gareth Evans yw Pennaeth Dros Dro yr ysgol. Dywedodd: “Ar ddechrau tymor newydd, roedd yn wych gallu dathlu llwyddiant y merched ar y cae rygbi yn dilyn cyfres o gemau lle gwelwyd y tîm yn trechu Ysgol Bro Dinefwr, Plas Mawr, Bishopston a Chwm Rhymni ymysg eraill. Hoffwn longyfarch y merched ar eu llwyddiant ysgubol a diolch yn fawr iawn i’r tîm hyfforddi sef Llyr James, Gemma Potter a Stephanie Gough am eu gwaith.”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.