7.7 C
Llanelli
Thursday, May 14, 2026
Home Newyddion Lle Ymateb Plaid Cymru i adolygiad COVID Llywodraeth Cymru

Ymateb Plaid Cymru i adolygiad COVID Llywodraeth Cymru

0
529
Rhun ap Iorwerth
Rhun ap Iorwerth

Yn dilyn y cyhoeddiad diweddaraf gan Lywodraeth Cymru, sy’n cadarnhau y bydd gorchuddion wyneb yn parhau’n orfodol mewn lleoliadau iechyd a gofal, dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros iechyd a gofal, Rhun ap Iorwerth AS,

“Mae’r newyddion bod yn rhaid parhau i wisgo gorchuddion wyneb mewn lleoliadau iechyd a gofal yn adlewyrchu’r ffaith nad yw coronafeirws wedi diflannu.

“Er bod lleoliadau iechyd a gofal yn parhau i fod o dan bwysau, rhaid inni barhau i fod yn wyliadwrus a phwysleisio’r angen i atal y feirws.

“Mae hyn yn bwysig i gynlluniau adfer y GIG, er mai’r hyn sydd ei angen arnom mewn gwirionedd yw ymdrech ar y cyd i fynd i’r afael â’r anghydraddoldebau iechyd sy’n parhau ledled Cymru. Dro ar ôl tro mae rhai cymunedau, rhai grwpiau a rhai unigolion yn dioddef mwy nag eraill – roedd hyn yn wir yn ystod y pandemig. Ond dydy hynny ddim yn anochel. Mae angen inni sicrhau bod y bwlch iechyd, sy’n rhy aml yn adlewyrchu’r bwlch cyfoeth yn ein cymdeithas, ar gau er daioni.”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here