13.1 C
Llanelli
Wednesday, March 18, 2026
Home Charity Mae gennym ni stori wych i ddweud wrthych chi – am sioe...

Mae gennym ni stori wych i ddweud wrthych chi – am sioe gŵn sy’n cael ei chynnal i godi arian at Apêl Cemo Bronglais!

0
484
Newmans dog show for chemo appeal picture wide
Newmans dog show for chemo appeal picture wide

Mae Canolfan Arddio Newman yng Nghapel Dewi, ger Aberystwyth yn llwyfannu’r sioe ar ei lawnt ar 6 Awst ac maen nhw’n apelio am geisiadau cŵn.

Dywedodd perchennog y Ganolfan Arddio, Dai Hennighan: “Mae’n bwysig ein bod ni’n cefnogi Ysbyty Bronglais. Mae’n cwmpasu ardal eang a gorau po gyntaf y cawn uned ddydd cemotherapi bwrpasol newydd.

“Mae canser yn cyffwrdd â phawb. Mae’n gwneud cymaint o wahaniaeth i gleifion a’u teuluoedd i gael y gwasanaeth yn agos i’w cartrefi fel nad oes rhaid i chi deithio’n rhy bell i gael triniaeth.”

Yn trefnu’r sioe gŵn mae rheolwr y ganolfan arddio Craig Swanson, gyda chymorth yr aelod o staff Karen Beasley, sy’n dangos ei chŵn ei hun yn Crufts.

Cynhelir y sioe o dan Reolau’r Kennel Club a bydd yn agor am 10.30am gyda’r beirniadu’n dechrau am 1pm.

Bydd dosbarthiadau pedigri a newydd-deb yn y sioe, gyda gwobrau am y gorau a’r gorau wrth gefn, y ci bach gorau a’r ci hynafol gorau, wedi’u beirniadu gan Mrs Ann Evans.

Mae gan y ganolfan arddio a’i siop goffi hefyd flychau casglu ar gyfer yr Apêl.

Mae Apêl Cemo Bronglais yn anelu at godi’r £500,000 terfynol sydd ei angen ar gyfer y gwaith adeiladu i ddechrau ar uned ddydd cemotherapi bwrpasol newydd ar gyfer Ysbyty Bronglais, er mwyn gwella profiad y claf yn fawr.

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, sy’n rhedeg yr Apêl: “Rydym yn ddiolchgar iawn am gefnogaeth Canolfan Arddio Newman. Mae cymaint o syniadau codi arian gwych yn cael eu hystyried i gefnogi’r Apêl. Mae hwn yn argoeli i fod yn ddigwyddiad llawn hwyl.”

I gefnogi’r sioe gŵn, neu am fwy o wybodaeth, ewch i Hywel Dda Health Charities: Newmans Fundraising Page (enthuse.com)

I gael rhagor o wybodaeth am yr Apêl ewch i: www.elusennauiechydhyweldda.org.uk


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.