14.5 C
Llanelli
Thursday, July 2, 2026
Home Newyddion Lle Bydd gweithdy newydd Cyswllt Ffermio yn canolbwyntio ar reoli parasitiaid mewn gwartheg...

Bydd gweithdy newydd Cyswllt Ffermio yn canolbwyntio ar reoli parasitiaid mewn gwartheg – a yw’n bryd newid eich arferion rheoli?

0
514
James Coope Milfeddygon Cain Vets Meifod scaled
James Coope Milfeddygon Cain Vets Meifod scaled

Ydych chi eisiau gwella iechyd y fuches a gwella perfformiad a chynhyrchiant eich buches bîff neu laeth? A ydych yn ymwybodol o’r arwyddion clinigol sy’n dangos bod parasitiaid yn broblem, a sut i’w hatal neu eu rheoli? A ydych yn gwybod pa fathau o borfa a systemau pori sy’n peri’r risg fwyaf, sut mae’r tywydd yn effeithio ar gylch bywyd parasitiaid, a pham fod angen i chi ynysu gwartheg sy’n dod i mewn?

Gall gyflyrau fel llyngyr yr iau, llyngyr yr ysgyfaint, llyngyr y perfedd a pharasitiaid allanol effeithio’n ddramatig ar berfformiad da byw, a all gael effaith economaidd ddifrifol ar gynhyrchiant.

Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio modiwl newydd yn ei gyfres boblogaidd o weithdai iechyd a lles anifeiliaid. Ar gael o’r mis hwn, bydd ‘Rheoli parasitiaid mewn gwartheg’ yn galluogi ffermwyr i atal, canfod a rheoli’r arwyddion clinigol sy’n gysylltiedig â’r parasitiaid uchod, yn ogystal â’r rhai sy’n effeithio’n benodol ar loi ifanc, gan gynnwys cocsidiosis a chryptosporidiwm.

Gyda holl gynnwys cyrsiau Iechyd a Lles Anifeiliaid Cyswllt Ffermio wedi’i ddatblygu ar y cyd â NADIS (y Gwasanaeth Cenedlaethol Gwybodaeth am Glefydau Anifeiliaid) a’i ddarparu gan bractisau milfeddygol sy’n cymryd rhan ledled Cymru, bydd y gweithdai rhyngweithiol ar gael naill ai mewn gweithdai grŵp wyneb yn wyneb rhanbarthol sy’n para hyd at dair awr, neu ar-lein.

Mae’r milfeddyg fferm James Coope, o Filfeddygon Cain yng ngogledd-ddwyrain Cymru, yn un o’r milfeddygon cymeradwy sy’n rhan o’r gweithdai. Mae Mr Coope yn pwysleisio bod atal a rheoli yn hollbwysig, a dywed y dylai ffermwyr bob amser ymgynghori â’u milfeddyg fferm eu hunain wrth lunio cynllun rheoli parasitiaid:

“Bydd y gweithdai hyn yn tynnu sylw ffermwyr at yr arwyddion clinigol cynnar a’r ffactorau risg a all ddangos problemau a rhoi arweiniad iddynt ar arferion rheoli gorau.

“Gall peswch fod yn arwydd clinigol amlwg iawn o lyngyr yr ysgyfaint, felly mae angen ymchwilio iddo’n brydlon.

“Yn yr un modd, mae angen i ffermwyr ddeall y risgiau sy’n gysylltiedig â phorfeydd a systemau pori gwahanol, gan y gall hyn fod yn elfen allweddol wrth reoli llyngyr y perfedd (PGE) mewn gwartheg.”

Bydd pob gweithdy a ariennir yn llawn yn ymdrin â rhagweld parasitiaid a chyfrif wyau ysgarthol i sicrhau bod ffermwyr yn dewis y triniaethau gwrthlyngyr cywir ac yn eu rhoi ar yr amser a’r amlder priodol. Bydd ffermwyr llaeth yn cael gwybod am gyfyngiadau trin gwartheg godro ar gyfer llyngyr yr iau. Ymdrinnir â phrotocolau triniaeth gwrthlyngyr ac amseroedd na ddylid godro.

I gael gwybod pa bractisau milfeddygol fydd yn cyflwyno’r modiwlau hyfforddi hyn ar Iechyd a Lles Anifeiliaid, ac am leoliadau a dyddiadau, ewch i’r adran sgiliau a hyfforddiant yn https://businesswales.gov.wales/farmingconnect/cy neu ffoniwch eich swyddog datblygu lleol.

Mae Cyswllt Ffermio yn cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra Cymru a’i ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here