16.3 C
Llanelli
Monday, September 28, 2026
Home Newyddion Lle Ymateb Llywodraeth Cymru i gyhoeddi data perfformiad diweddaraf GIG Cymru

Ymateb Llywodraeth Cymru i gyhoeddi data perfformiad diweddaraf GIG Cymru

0
502
WAG e1613740672868
WAG e1613740672868

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi datganiad ar ddata perfformiad diweddaraf GIG Cymru a gyhoeddwyd heddiw (dydd Iau 19 Mai).

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru:

“Wrth i’r gwasanaeth iechyd barhau i adfer o’r pandemig, a mwy o bobl yn dod ymlaen â phryderon iechyd, rydym wedi gweld y nifer uchaf o atgyfeiriadau am apwyntiad claf allanol cyntaf ers mis Ionawr 2020, gydag ychydig dros 115,000 o atgyfeiriadau wedi’u gwneud ym mis Mawrth. Mae’r cynnydd hwn yn helpu i egluro pam mae cyfanswm maint y rhestrau aros wedi cynyddu 1.4% ers y mis blaenorol. Dylid nodi bod lefelau gweithgarwch ar gyfer triniaeth a chleifion allanol ar eu huchaf ers dechrau’r pandemig.

“Nifer yr apwyntiadau cleifion allanol ym mis Mawrth oedd yr uchaf ers mis Ionawr 2020 (255,384). Ar ben hyn, roedd nifer y triniaethau cleifion mewnol ac achosion dydd ar ei uchaf ers dechrau’r pandemig.

“Nifer y llwybrau cleifion a gaeodd ym mis Mawrth, hynny yw’r bobl sydd wedi dechrau triniaeth neu nad ydynt bellach ei hangen, oedd yr uchaf ers dechrau’r pandemig, gydag 1.7% yn fwy ar gyfartaledd nag ym mis Chwefror.

“Er bod cyfanswm y niferoedd sy’n aros am brofion diagnostig yn parhau i gynyddu, mae’r niferoedd sy’n aros yn hirach na’r targed wyth wythnos wedi gostwng am yr ail fis yn olynol i’w lefel isaf ers mis Ebrill 2021 a chan 4.9% o’i gymharu â mis Chwefror 2022.

“Gwelodd mis Mawrth hefyd y lefel uchaf o weithgarwch mewn gwasanaethau canser ers mis Rhagfyr 2020. Roedd cynnydd o 12.4% yn nifer y bobl a ddechreuodd eu triniaeth gyntaf yn dilyn diagnosis canser newydd, o’i gymharu â’r mis blaenorol. Caewyd 12,643 o lwybrau ar ôl i gleifion cael gwybod nad oedd ganddynt ganser, cynnydd o 11.1% ers mis Chwefror 2022.

“Mae’r Cynllun Adfer Gofal wedi’i Gynllunio a gyhoeddwyd fis diwethaf yn nodi cyfres o uchelgeisiau. Yr uchelgais cyntaf oedd lleihau nifer y llwybrau agored sy’n aros dros 52 wythnos am apwyntiad claf allanol cyntaf i sero erbyn diwedd 2022. Ym mis Mawrth 2022, roedd gostyngiad o 1% yn nifer y llwybrau sy’n aros dros 52 wythnos am apwyntiad claf allanol cyntaf o’i gymharu â mis Chwefror.

“Ym mis Mawrth 2022, roedd gostyngiad o 4.8% yn nifer y llwybrau sy’n aros dros 52 wythnos o’i gymharu â mis Mawrth 2021. 

“Er gwaethaf y cynnydd yng nghanran y llwybrau cleifion sy’n aros mwy na 36 wythnos ym mis Mawrth, gostyngodd yr amser aros cyfartalog am driniaeth a chynyddodd y gyfran sy’n aros llai na 26 wythnos.”

“Fis hwn, cyhoeddir data 111 am y tro cyntaf ers cyflwyno’r gwasanaeth ledled Cymru. Ym mis Ebrill, cafodd bron i 86,000 o alwadau eu gwneud i’r gwasanaeth 111, sef 2,863 o alwadau y diwrnod ar gyfartaledd. Mae’r gwasanaeth yn cael ei redeg gan Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru ac mae ar gael ar-lein ar GIG 111 Cymru neu dros y ffôn drwy ffonio 111. Bydd yn rhoi cyngor iechyd cyfredol i bobl a chanllawiau ar ba wasanaeth GIG sydd orau iddynt.

“Mae staff a gwasanaethau ambiwlans argyfwng 999 ac adrannau achosion brys yn parhau i fod o dan bwysau sylweddol ac nid yw perfformiad yn y sefyllfa rydym am iddo fod. Mae ein rhaglen Chwe Nod ar gyfer gofal brys a gofal mewn argyfwng wedi’i lansio i gefnogi gwelliannau mewn canlyniadau a phrofiadau drwy helpu staff i ddarparu’r gofal cywir yn y lle iawn, y tro cyntaf pan fo’n bosibl.

“Roedd gostyngiad yng nghyfartaledd derbyniadau dyddiol i adrannau achosion brys ym mis Ebrill, a gwelliant bychan mewn perfformiad yn erbyn y targedau. Mae nifer y galwadau ‘coch’, neu alwadau lle mae bywyd yn y fantol, yn parhau i fod yn uchel, gyda chynnydd o 36% o’i gymharu â’r un mis yn 2021. Mae cynllun cyflawni cenedlaethol byw ar waith i gefnogi gwelliant parhaus, gan gynnwys i gefnogi mynd i’r afael ag oedi wrth drosglwyddo cleifion ambiwlans.

“Mae’n bwysig nodi y cafodd bron i 400,000 o ymgyngoriadau â chleifion eu gweld gan y GIG yng Nghymru ar gyfer triniaeth frys neu ddewisol.”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.