13.4 C
Llanelli
Sunday, August 16, 2026
Home hywel dda health board Cofio Babanod a Garwyd ac a Gollwyd

Cofio Babanod a Garwyd ac a Gollwyd

0
738
Glangwili Hospital Car Park
Glangwili Hospital Car Park

Cynhelir Gwasanaeth Babanod a Garwyd ac a Gollwyd blynyddol Hywel Dda ddydd Sadwrn 25 Mehefin 2022 yng Nghaerfyrddin.

Mae’r gwasanaeth, sy’n cael ei drefnu gan staff y bwrdd iechyd a’i arwain gan yr Adran Gofal Ysbrydol (Caplaniaeth), wedi bod yn gysur i rieni a theuluoedd ers tro ac yn rhoi cyfle i bobl fyfyrio a dod at ei gilydd i dalu parch, cynnu cannwyll ac ysgrifennu neges mewn man diogel.

Mae’r gwasanaeth, sy’n cael ei gynnal fel arfer ar y dydd Sadwrn cyn y Pasg, wedi’i aildrefnu i’w gynnal ym Mharc Caerfyrddin, SA31 3DF am hanner dydd ddydd Sadwrn 25 Mehefin.

Mae mynedfa i’r parc o Deras Picton a Heol Morfa Caerfyrddin ac mae trefniadau wedi’u gwneud ar gyfer cyfleusterau parcio am ddim yn Eglwys Bethel, Teras Picton, Caerfyrddin, SA31 3BT sydd y tu ôl i Adeiladau Llywodraeth Cymru yn Teras Picton.

Dywedodd Euryl Howells, Uwch Gaplan: “Mae galar ar ôl colli babi yn sylweddol a deimladwy ac mae’r torcalon yn dwysau wrth i obeithion a breuddwydion gael eu chwalu.

“Mae’r gwasanaeth yn agored i bawb ac mae’n gyfle i unrhyw un sydd wedi colli babi oedi, myfyrio a chofio, ymhlith eraill sydd wedi profi colled eu hunain a sylweddoli nad ydyn nhw ar eu pen eu hunain yn eu galar.

“Nid dim ond ar gyfer teuluoedd sydd wedi colli babanod yn ddiweddar, ac yn ardal y bwrdd iechyd hwn yw’r gwasanaeth. Y pwyslais drwyddi draw yw uno, trysori babanod sydd wedi marw a rhannu yn y broses iachau. O fewn y gwasanaeth bydd cerddoriaeth, darlleniadau a cherddi, amser myfyrio a gweddïau. Mae man i gynnu cannwyll ac i gynnig neges ar gael. I rai mae’n wasanaeth crefyddol, i eraill mae’n wasanaeth ysbrydol ac i eraill, mae’n fyfyriol – mater iddyn nhw yw sut mae pobl yn cymryd rhan.

“Rydym yn cydnabod bod gohirio’r seremoni yn peri gofid ac na chymerwyd y penderfyniad yn ysgafn. Mae presenoldeb yn y gorffennol a’r sylwadau bositif yn ailadrodd bod y seremoni yn helpu rhieni, teuluoedd a staff i gydnabod y teimlad dwys o golled.

“Rydym yn ddiolchgar am gefnogaeth a charedigrwydd Cyngor Tref Caerfyrddin a’r Gweinidog Tim a swyddogion Eglwys Bethel.”

Bydd staff ar gael ar y diwrnod i’ch cyfeirio o faes parcio Bethel a’r mynedfeydd. Os ydym yn gwybod y bydd y tywydd yn arw, bydd Capel Bethel ar gael. Bydd gwybodaeth yn cael ei lanlwytho i wefannau a chyfryngau cymdeithasol y bwrdd iechyd ar ddydd Gwener 24 Mehefin.

Os nad ydych yn gallu mynychu’r gwasanaeth ac yn dymuno coffau eich anwylyd anfonwch neges at Loved.Forever.HDD@wales.nhs.uk

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch ag Euryl Howells dros y ffôn neu drwy e-bost ar (01267) 227563 neu Euryl.Howells2@wales.nhs.uk


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.