9.2 C
Llanelli
Wednesday, March 11, 2026
Home Dwr Cymru Dŵr Cymru yn gallu cefnogi 50,000 yn rhagor o aelwydydd incwm isel

Dŵr Cymru yn gallu cefnogi 50,000 yn rhagor o aelwydydd incwm isel

0
473
332400414.gallery
332400414.gallery
  • Cymorth gwerth £12 miliwn i gwsmeriaid sy’n agored i niwed yn 2022/23
  • Annog aelwydydd sydd mewn trafferthion i gysylltu â Dŵr Cymru
  • Y cwmni’n gweithio gyda dros 300 o sefydliadau lleol i helpu cwsmeriaid mewn angen

Mae Dŵr Cymru, yr unig gwmni cyfleustodau nid-er-elw yng Nghymru a Lloegr, wedi cyhoeddi, fel rhan o’i ganlyniadau blynyddol ar gyfer 2021-22, ei fod yn buddsoddi £12 miliwn eleni i gefnogi ei gwsmeriaid mwyaf agored i niwed yn ystod yr argyfwng ‘costau byw’ presennol.

Mae’r cwmni, sydd â mwy na 1.3 miliwn o gwsmeriaid aelwydydd yn y rhan fwyaf o Gymru a rhannau o Loegr, yn darparu £55 miliwn dros y bum mlynedd hyd at 2025 i roi cymorth ariannol i’w gwsmeriaid. Mae 127,000 o gwsmeriaid Dŵr Cymru bellach yn elwa oherwydd biliau gostyngedig drwy dariffau cymdeithasol – nifer fwy, fel cyfran o faint y cwmni, nag unrhyw gwmni dŵr arall yng Nghymru a Lloegr. Mae’r cwmni’n clustnodi dros £12 miliwn yn 2022/23 i gefnogi ei gwsmeriaid agored i niwed sydd mewn trafferthion gyda’u biliau dŵr ac mae wedi cadarnhau ei fod eisiau cefnogi 50,000 yn rhagor o aelwydydd incwm isel.

Mae Dŵr Cymru yn gweithio gyda dros 300 o sefydliadau lleol (gan gynnwys Cyngor ar Bopeth, cynllun NYTH Llywodraeth Cymru i gefnogi gwelliannau effeithlonrwydd ynni, y Ganolfan Byd Gwaith, cymdeithasau tai a banciau bwyd) i helpu i nodi a chefnogi cwsmeriaid a allai fod yn gymwys i gael bil gostyngedig. Mae hefyd yn annog cwsmeriaid a allai fod yn wynebu anawsterau i gysylltu â’r cwmni cyn gynted â phosibl i drafod yr amrywiaeth o opsiynau sydd ar gael gan gynnwys cynlluniau talu hyblyg.

Gall y cwmni ddarparu cymorth tymor byr drwy gynlluniau taliadau is neu wyliau talu, yn ogystal â chynghori cwsmeriaid ar sut i leihau eu taliadau yn y tymor hwy drwy ddewis gosod mesurydd dŵr am ddim a rhoi arweiniad ar sut i ddefnyddio dŵr yn effeithlon a all helpu i leihau faint o ddŵr a ddefnyddir. 

Mae’r cymorth hwn yn cael ei dargedu at yr aelwydydd hynny sy’n wynebu anawsterau wrth dalu eu biliau dŵr a model nid-er-elw’r cwmni sy’n galluogi hyn.

Mae canlyniadau diweddaraf Dŵr Cymru yn dangos ei fod wedi parhau i fuddsoddi bron i £1 miliwn y dydd yn ei wasanaethau dŵr a dŵr gwastraff dros y 12 mis diwethaf. Cynyddodd costau gweithredu £14 miliwn y llynedd oherwydd prisiau ynni cynyddol a’r angen am fesurau ychwanegol i gynnal gwasanaethau dŵr a dŵr gwastraff hanfodol yn ystod rhybudd tywydd poeth oren cyntaf erioed yr haf diwethaf a’r lefelau uchaf erioed o ymwelwyr â rhannau o Gymru. 

Mae pwyslais y cwmni ar sicrhau gwerth am arian i’w gwsmeriaid hefyd wedi gwella effeithlonrwydd. Mae hyn wedi arwain at arbedion cost o £16 miliwn yn 2021-22 ac roedd y mentrau effeithlonrwydd yn cynnwys defnyddio gwelliannau digidol, awtomeiddio a phrosesau. Mae ffyrdd arloesol o weithio wedi’u hymwreiddio hefyd ers covid-19 wrth i ni ddefnyddio technoleg ar-lein i leihau ein hôl troed lleoliad a’r gwariant cysylltiedig.

Dywedodd Cadeirydd Glas Cymru, Alastair Lyons: “Mae ein canlyniadau diweddaraf yn dangos ein bod wedi cyflawni perfformiad cryf er gwaethaf yr heriau gweithredol a chost parhaus a grëwyd gan Covid-19 a phatrymau tywydd dramatig – sy’n ein hatgoffa eto o’r brys i fynd i’r afael â newid hinsawdd.

“Fel cwmni, rydym ni bob amser yn cynllunio ar gyfer y tymor hir ond mae hefyd yn bwysig ein bod yn ymateb i ddigwyddiadau wrth iddyn nhw ddatblygu yn y tymor byr. Mae ein strwythur corfforaethol unigryw heb gyfranddalwyr yn caniatáu i ni ganolbwyntio’n gyfan gwbl ar ein cwsmeriaid a’u hanghenion: o ystyried yr hinsawdd economaidd ar hyn o bryd, mae’n hanfodol ein bod  yn darparu cymorth wedi’i dargedu i helpu’r rhai mwyaf anghenus.”

Dywedodd Prif Weithredwr Dŵr Cymru, Peter Perry: “Fel cwmni a berchnogir ar ran ei gwsmeriaid, rydym ni’n falch bod gennym rai o’r lefelau uchaf o ymddiriedaeth cwsmeriaid yn y sector.

“Gwyddom fod yn rhaid ennill yr ymddiriedaeth hon drwy barhau i wneud y peth iawn: dyma pam yr ydym wedi ymrwymo’n llwyr i gefnogi ein cwsmeriaid a’u cymunedau, yn enwedig yn ystod y cyfnod anodd hwn wrth i aelwydydd ei chael hi’n anodd cael dau ben llinyn ynghyd. Drwy ddarparu dros £12 miliwn ar gyfer ein cynllun tariffau cymdeithasol eleni yn unig, gallwn gefnogi aelwydydd incwm isel sy’n ei chael yn anodd talu eu biliau. Dylai unrhyw un sy’n pryderu am sut y gallan nhw dalu eu biliau dŵr gysylltu â ni cyn gynted ag y gallan nhw i drafod pa gymorth a allai fod ar gael iddynt.”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.