18.8 C
Llanelli
Saturday, September 26, 2026
Home Other areas Carmarthenshire County Council Dechrau torri’r glaswellt wrth ymyl y ffordd 

Dechrau torri’r glaswellt wrth ymyl y ffordd 

0
639
ccc verge cutting
ccc verge cutting

Mae gweithwyr priffyrdd Cyngor Sir Caerfyrddin yn dechrau ar eu gwaith blynyddol o dorri’r glaswellt wrth ymyl y ffordd yr wythnos hon, i wneud y briffordd yn ddiogel a gofalu am gynefinoedd pwysig ar yr un pryd.

Fel rhan o’i ddyletswydd i ddiogelu bioamrywiaeth, dim ond mewn swatiau un metr fydd y glaswellt yn cael ei dorri yn y rhan fwyaf o fannau, a hynny lle mae tyfiant yn effeithio ar allu defnyddwyr ffyrdd i weld yn glir ac yn achosi perygl i gerddwyr. Bydd sawl ymyl ffordd yn cael eu gadael tan yn ddiweddarach yn y flwyddyn er mwyn caniatáu i flodau hadu cyn cael eu torri.

Bydd llawer o’r llecynnau glaswelltog a’r blodau gwyllt sydd wrth ymyl y ffordd yn Sir Gâr yn cael eu gadael heb eu torri i gynnal bywyd gwyllt lleol a phryfed peillio.

Dim ond os oes pryderon iechyd a diogelwch y bydd torri’n digwydd yn y mannau hyn, yn enwedig mewn parthau 30-40mya mewn trefi a phentrefi.

Y tirfeddiannwr cyfagos sydd â chyfrifoldeb dros wrychoedd a choed ffin a dylid eu harchwilio a’u cynnal yn rheolaidd. Os nad yw coed a pherthi yn cael eu rheoli’n gywir gallant amharu ar ddiogelwch ffyrdd, yn enwedig ger cyffyrdd neu droeon lle gallant beryglu gwelededd hanfodol.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith, y Cynghorydd Edward Thomas: “Mae’r gwaith hwn wedi’i ddatblygu’n ofalus i wneud yn siŵr fod y briffordd yn ddiogel a bod ardaloedd pwysig o gynefin yn ddiogel. Mae cyfrifoldeb arnom ni i gadw’r ffyrdd yn ddiogel i bob defnyddiwr, sicrhau gwelededd, darparu mannau i gerddwyr gamu oddi ar y ffordd os nad oes llwybrau troed, ac atal rhywogaethau dieisiau rhag lledaenu. Fodd bynnag, rydym ni’n torri cyn lleied ag sydd raid. Yn y rhan fwyaf o leoedd, caiff y borfa ei thorri mewn swatiau un metr yn unig lle mae tyfiant yn effeithio ar allu defnyddwyr ffyrdd i weld yn glir ac yn achosi perygl i gerddwyr. Mae llawer o’r ymylon yn cael eu torri yn gynharach neu’n hwyrach yn y tymor er mwyn caniatáu i rywogaethau brodorol ffynnu.”

Mae pryfed peillio yn hanfodol ar gyfer cynnal a chadw ecosystemau trwy beillio planhigion gwyllt sy’n sail i’r mwyafrif o gynefinoedd. Maent hefyd yn chwarae rhan bwysig wrth gynhyrchu llawer o gnydau.

Mae’r cyngor yn gwarchod a gwella bioamrywiaeth ac mae ganddo ystod o brosiectau ar waith i gefnogi rhywogaethau a chynefinoedd lleol.

Gall rheoli ardaloedd ar gyfer bywyd gwyllt ddarparu cyfleoedd i unigolion, grwpiau cymunedol ac ysgolion er mwyn iddynt gymryd rhan, sydd o fudd i fywyd gwyllt ac i bobl.

Ewch i’n tudalennau Bioamrywiaeth i gael rhagor o wybodaeth a syniadau am ffyrdd o gefnogi cadwraeth leol.

I gael rhagor o wybodaeth am waith y Cyngor o ran torri glaswellt wrth ymyl y ffordd, ewch i’n hadran Cwestiynau Cyffredin ar wefan y cyngor sirgar.llyw.cymru


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.