10.2 C
Llanelli
Wednesday, March 11, 2026
Home Newyddion Lle Sioeau teithiol ledled Cymru dros yr haf i roi cyngor magu plant...

Sioeau teithiol ledled Cymru dros yr haf i roi cyngor magu plant yn gadarnhaol.

0
412
PastedGraphic 2 scaled
PastedGraphic 2 scaled

Nid yw magu plant yn rhwydd bob amser; mae ymgyrch Magu Plant. Rhowch amser iddo Llywodraeth Cymru, eisiau helpu trwy roi gwybodaeth, cyngor a chymorth ynglŷn â magu plant mewn modd cadarnhaol i rieni sydd â phlant hyd at 18 oed.

Tri mis yn unig ers i gosbi plant yn gorfforol ddod yn anghyfreithlon, bydd cyfres o sioeau teithiol sy’n rhoi gwybodaeth am fagu plant yn ymweld â lleoliadau ledled Cymru rhwng mis Mehefin a mis Medi 2022.

Bydd y sioeau teithiol yn cynnig sesiynau galw heibio anffurfiol i’r cyhoedd  mewn archfarchnadoedd a digwyddiadau cyhoeddus, gan roi cyngor ymarferol ar dechnegau magu plant yn gadarnhaol a chyfle i gael gwybod mwy am y gyfraith newydd ar gosbi corfforol. 

Bydd cynrychiolwyr o wasanaethau cymorth i deuluoedd / magu plant llywodraeth leol a Magu Plant. Rhowch amser iddo wrth law i siarad am bopeth sy’n ymwneud â magu plant.

Mae’r sioeau teithiol yn cyd-fynd ag ymgyrch hysbysebu genedlaethol newydd, ‘Ddim fan hyn’, sy’n codi ymwybyddiaeth o’r ffaith bod cosbi corfforol, fel smacio, bellach yn anghyfreithlon yng Nghymru.

Mae’r rhestr lawn o ddyddiadau a lleoliadau fel a ganlyn:

·      Dydd Iau 30 Mehefin, 9.30-12.30: ASDA Bae Caerdydd, Parc Manwerthu Ferry Road, Caerdydd, CF11 OJR

·      Dydd Iau 7 Gorffennaf, 9.30-12.30: ASDA Llansamlet, Upper Forest Way, Abertawe, SA6 8PS

·      Dydd Iau 14 Gorffennaf: 9.30-12.30: ASDA Pen-y-bont ar Ogwr, Coychurch Road, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 3AG

·      Dydd Iau 18 Awst, 9.30-12.30: Ffair Dinbych a’r Fflint, The Green, Dinbych, LL16 3NU

·      Dydd Iau 1 Medi, 9.30-12.30: Tesco Extra Casnewydd, Uned 3, Harlech Retail Park, Cardiff Road, Casnewydd NP20 3BA

·      Dydd Iau 15 Medi, 9.30-12.30: Tesco Aberystwyth, Park Avenue, Aberystwyth, SY23 1PB

Dywedodd Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, “Pan gyflwynom y gyfraith i roi terfyn ar gosbi corfforol, roeddem yn gwbl ymwybodol bod angen i’r wybodaeth, cyngor a chymorth angenrheidiol fod ar gael i rieni. Dyna pam rydym yn buddsoddi hyd at £2.8m ychwanegol, dros bedair blynedd, i gynyddu gallu awdurdodau lleol yng Nghymru i ddarparu cymorth ar fagu plant mewn modd cadarnhaol.

“Bydd y sioeau teithiol ledled Cymru yn gyfle gwych i deuluoedd gael gwybod mwy am yr ymgyrch Magu Plant. Rhowch amser iddo a chael awgrymiadau ymarferol a chyngor arbenigol ar fagu plant yn gadarnhaol i annog ymddygiad da gan blant.

“Mae llawer o gymorth magu plant ar gael i deuluoedd, gan gynnwys cymorth wedi’i dargedu trwy raglenni fel Dechrau’n Deg a Theuluoedd yn Gyntaf ochr yn ochr â gwasanaethau cyffredinol a ddarperir gan, er enghraifft, fydwragedd, ymwelwyr iechyd, meddygon teulu ac awdurdodau lleol.” 


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.