13.8 C
Llanelli
Thursday, March 19, 2026
Home Local News Cardiff News Galw ar Lyfr-bryfed Caerdydd – Mae Sialens Ddarllen yr Haf yn ôl!

Galw ar Lyfr-bryfed Caerdydd – Mae Sialens Ddarllen yr Haf yn ôl!

0
1698
Screenshot 2022 05 24 at 14.37.13
Screenshot 2022 05 24 at 14.37.13

Mae Sialens Ddarllen boblogaidd yr Haf yn ôl yn llyfrgelloedd a hybiau Caerdydd eleni fel rhan o Haf o Hwyl sy’n ceisio ysbrydoli plant yn y ddinas i ddysgu mwy am wyddoniaeth ac arloesedd.

Mae’r her yn rhan o haf llawn hwyl o weithgareddau a digwyddiadau yn llyfrgelloedd a hybiau Caerdydd. Eleni bydd bonws ychwanegol gyda mwy o weithgareddau a digwyddiadau’n cael eu cynnal fel rhan o Brosiect Teclynwyr y rhaglen Haf o Hwyl a gefnogir gan Lywodraeth Cymru.

Mae’r Teclynwyr hefyd yn thema Sialens Ddarllen yr Haf ac unwaith eto gall plant gofrestru a darllen chwe llyfr o’u dewis eu hunain, a chael llawer o hwyl, dros fisoedd yr haf.

Bydd chwe chymeriad ffuglennol – teclynwyr – sy’n dod yn fyw gyda help yr awdur a’r darlunydd plant Julian Beresford – yn defnyddio eu chwilfrydedd a’u synnwyr rhyfeddod i ddeall y wyddoniaeth y tu ôl i amrywiaeth eang o ddiddordebau, o ffasiwn a thechnoleg i goginio a cherddoriaeth.

Bydd hybiau a llyfrgelloedd ar draws y ddinas yn lansio Sialens Ddarllen yr Haf eleni, a gyflwynir gan The Reading Agency ac sy’n cael ei darparu gan lyfrgelloedd a hybiau cyhoeddus ledled y wlad bob blwyddyn, ddydd Sadwrn, 9 Gorffennaf, gyda llawer o weithgareddau hwyl. Yn Rhiwbeina, tra bod y llyfrgell yn cael ei hailddatblygu, cynhelir y parti lansio ddydd Gwener, 8 Gorffennaf yng Nghanolfan Beulah. Ewch i www.hybiaucaerdydd.co.uk i weld be sy’ mlaen

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne:  “Mae Sialens Ddarllen yr Haf yn ffordd hwyl o gymell plant i barhau i ddarllen dros wyliau’r ysgol i gynnal eu sgiliau llythrennedd. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, prin fu’r cyfleoedd i ddathlu’r sialens fel yr hoffem, felly rwy’n falch iawn y bydd ein hybiau a’n llyfrgelloedd eleni yn gallu cynnal rhaglen lawn o ddigwyddiadau a gweithgareddau i ddod â phlant a theuluoedd yn ôl i’n cyfleusterau rhagorol.

“Cymerodd dros 3,000 o blant ran yn y sialens y llynedd ond hoffem roi hwb sylweddol i’r niferoedd hynny, felly rwy’n annog pob plentyn 4 i 11 oed yn y ddinas i gofrestru, darllen a chael Haf o Hwyl gwych gyda ni.”

Ar ôl cofrestru, bydd plant yn gallu casglu sticeri, nodau tudalen a chardiau casglwyr wrth iddynt weithio eu ffordd drwy eu chwe llyfr. Bydd pawb sy’n cwblhau’r sialens hefyd yn cael tystysgrif a medal.

Mae’n hawdd cofrestru, galwch heibio i’ch llyfrgell neu’ch hyb lleol neu cofrestrwch ar-lein yma: https://sialensddarllenyrhaf.org.uk/

Yn dilyn llwyddiant y Gaeaf Llawn Lles, unwaith eto, bydd gwasanaeth llyfrgelloedd Caerdydd yn gweithio gyda The Reading Agency i ddarparu Prosiect Teclynwyr – rhaglen o ddigwyddiadau a gweithgareddau ar gyfer llyfrgelloedd ledled Cymru, gan ganolbwyntio ar les a datblygiad plant fel rhan o Haf o Hwyl 2022 a gefnogir gan Lywodraeth Cymru.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.