9.6 C
Llanelli
Monday, March 16, 2026
Home Other areas Carmarthenshire County Council Dadorchuddio cofeb Save Our Sands ym Mharc Gwledig Pen-bre

Dadorchuddio cofeb Save Our Sands ym Mharc Gwledig Pen-bre

0
323
Save Our Sands memorial
Save Our Sands memorial

Mae cofeb wedi’i dadorchuddio ym Mharc Gwledig Pen-bre i goffáu ymgyrch galed i achub traeth Pen-bre at ddefnydd y cyhoedd.

Rhwng 1969 a 1971, lansiwyd ymgyrch Save Our Sands gan y gymuned leol yn erbyn cynlluniau’r Weinyddiaeth Amddiffyn i roi cromen saethu a chanolfan profi taflegrau yn yr ardal.

Bellach, 50 mlynedd yn ddiweddarach, i anrhydeddu pawb a fu’n brwydro i ddiogelu’r draethlin i genedlaethau’r dyfodol ei mwynhau, mae saith carreg sy’n sefyll, gan gynrychioli’r grwpiau unigol a fu’n brwydro a saith milltir traeth Cefn Sidan, wedi’u codi yn y parc.

Mae hefyd yn cynnwys plac sy’n adrodd hanes yr ymgyrch a pham y crëwyd y parc gwledig.

Roedd ymgyrchwyr a’u ffrindiau a’u teuluoedd wedi bod yn bryderus y byddai hanes y frwydr fawr yn cael ei anghofio a dechreuasant godi arian drwy ddigwyddiadau amrywiol ar gyfer cofeb barhaol.

Dywedodd y grŵp, a elwid gynt yn SOS@50 (fe’i diddymwyd yn ffurfiol ym mis Awst 2019): “Ni fyddai Parc Gwledig Pen-bre yn bodoli fel rydym yn ei adnabod heb yr ymgyrch hanesyddol a chaled hon ledled yr ardal; byddai 15,000 erw o dir i gyfeiriad y môr o’r rheilffordd rhwng Pen-bre a Chydweli wedi dod yn gromen saethu a chanolfan profi taflegrau, gan wahardd gweithgareddau hamdden ar hyd y draethlin rhwng arfordir Gŵyr a Dinbych-y-pysgod.

“Heb y frwydr aruthrol yn erbyn llywodraeth y cyfnod a’r Weinyddiaeth Amddiffyn, byddem wedi bod yn byw – ac, mae’n debyg, yn parhau i fod yn byw – mewn amgylchedd gwahanol iawn i’r amgylchedd y mae’n fraint i ni ei fwynhau heddiw.”

Mae Parc Gwledig Pen-bre hefyd wedi lansio Llwybr Hanesyddol Realiti Estynedig sy’n mynd â chi’n ôl i glywed popeth am yr hyn a ddigwyddodd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf a’r Ail Ryfel Byd. I’w lawrlwytho, chwiliwch am ‘Llwybr Hanesyddol Pen-bre’ yn yr ‘App Store’ ar gyfer iphone neu ‘Google Store’ ar gyfer ffôn android.

Dywedodd y Cynghorydd Gareth John, Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth: “Rydym yn hynod ffodus o gael Parc Gwledig Pen-bre yma yn Sir Gaerfyrddin. Gyda’i 500 erw o goetiroedd gogoneddus i’w harchwilio, saith milltir o draeth tywodlyd euraidd a llawer o weithgareddau i’r teulu i gyd eu mwynhau, mae’n ddiwrnod perffaith allan.

“Ond mae mor bwysig ein bod yn cofio hanes y parc a’r holl bobl a fu’n brwydro i achub ein traeth oherwydd, hebddynt, ni fyddai gennym y parc rydym yn ei adnabod a’i garu heddiw.

“Rwy’n falch iawn bod y gofeb hon wedi’i gosod i adrodd yr hanes a’r fuddugoliaeth anhygoel.”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.