7.5 C
Llanelli
Saturday, March 14, 2026
Home Newyddion Lle Awdurdod y Parc yn annog pobl i fod yn eithriadol o ofalus...

Awdurdod y Parc yn annog pobl i fod yn eithriadol o ofalus yn dilyn tanau gwyllt

0
336
SmallBBQ1
SmallBBQ1

Yn dilyn nifer o danau glaswellt yn y sir dros y dyddiau diwethaf, mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn annog aelodau o’r cyhoedd i beidio â chynnau tân ac i fod yn ofalus iawn wrth ddefnyddio barbeciws.

Mae staff o’r Awdurdod bellach wedi gosod arwyddion mewn lleoliadau allweddol i rybuddio pobl am beryglon tân.

Dywedodd Parcmon Awdurdod y Parc a’r Ymladdwr Tân rhan-amser, Richard Vaughan: “Rydyn ni’n annog pawb i fod yn hynod ofalus yn ystod y cyfnod hwn o dywydd sych a phoeth ac i fod yn ymwybodol o’r risg uwch o danau glaswellt.

Capsiwn: Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn annog pobl i fod yn ystyriol o’r risg i danau ymledu oherwydd y tywydd sych diweddar.

“Os ydych chi’n bwriadu gwneud barbeciw, rhaid i chi sicrhau bod y barbeciw yn cael ei osod ar arwyneb gwastad ac anllosgadwy, ymhell oddi wrth goed, llwyni a deunyddiau llosgadwy eraill. Mae hefyd yn hanfodol bod barbeciws yn cael eu diffodd gyda dŵr oer a bod yr holl sbwriel yn cael ei waredu’n iawn.

“Gyda mwy o bobl yn mynd i fwynhau golygfeydd godidog Sir Benfro dros yr wythnosau nesaf, mae’n bwysig cofio, mewn amgylchiadau poeth a sych fel hyn, y gall hyd yn oed hen sigarét neu botel wydr gynnau tân dinistriol.”

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi llunio canllaw defnyddiol ar leihau’r risg o dân mewn mannau awyr agored, ac mae ar gael yn www.tancgc.gov.uk/cym/diogelwch/eich-gardd-ar-awyr-agored/.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.