12.3 C
Llanelli
Wednesday, May 20, 2026
Home Newyddion Lle TrC a Cadw yn cydweithio i gynnig mynediad 2 docyn am bris...

TrC a Cadw yn cydweithio i gynnig mynediad 2 docyn am bris 1

0
314
TfW Cadw min
TfW Cadw min

Gall pobl sy’n teithio ar y trên i dirnodau hanesyddol Cymru gael 2 docyn am bris 1, diolch i bartneriaeth newydd rhwng Trafnidiaeth Cymru a Cadw.

Bydd ymwelwyr sy’n cyflwyno tocyn trên dilys ar yr un diwrnod yn gymwys i gael dau docyn am bris un yn safleoedd Cadw sy’n codi pris mynediad.

Mae’n ddilys mewn lleoliadau hanesyddol y mae Cadw yn gofalu amdanynt ar draws Cymru, gan gynnwys cestyll byd-enwog yng Nghaernarfon, Conwy a Chaerffili, ac mae modd cyrraedd llawer ohonynt yn rhwydd ar y trên.

Dywedodd James Price, Prif Weithredwr Trafnidiaeth Cymru: “Mae gan Gymru gymaint o atyniadau anhygoel i ymweld â hwy.  Mae’r cynnig hwn yn ffordd berffaith o arbed arian, tra hefyd yn teithio’n gynaliadwy ar drafnidiaeth gyhoeddus.

“Rydyn ni’n falch iawn o gydweithio â Cadw ar y cynllun hwn ac yn gobeithio y bydd llawer o bobl yn manteisio ar y cynnig hwn dros y flwyddyn nesaf.”

Meddai Gwilym Hughes, Pennaeth Cadw: “Fel gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru, mae Cadw wedi ymrwymo i gynaliadwyedd tirwedd hanesyddol Cymru, er budd cenedlaethau’r dyfodol.

“Yn naturiol, mae’r ymrwymiad hwn yn mynd law yn llaw â thargedau cynaliadwyedd ehangach Cymru — felly ni allem fod yn hapusach yn cefnogi Trafnidiaeth Cymru gyda’r fenter dwristiaeth werdd hon.

 “Gobeithiwn y bydd y cynnig yn galluogi trigolion Cymru ac ymwelwyr fel ei gilydd i ddewis opsiwn mwy gwyrdd o ran teithio cyhoeddus wrth ymweld â’n safleoedd hanesyddol eithriadol — yr haf hwn a thu hwnt.”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here