16.3 C
Llanelli
Monday, September 28, 2026
Home Education Datganiad i’r Wasg Bargen Ddinesig Bae Abertawe

Datganiad i’r Wasg Bargen Ddinesig Bae Abertawe

0
316

Prosiect £130m y Fargen Ddinesig a fydd yn rhoi hwb i’r sectorau Technoleg Feddygol a Chwaraeon yn creu argraff ar Weinidog yr Economi.

Mae Gweinidog Economi Llywodraeth Cymru, Vaughan Gething, wedi ymweld â phrosiect £130 miliwn Campysau Bargen Ddinesig Bae Abertawe ym Mhrifysgol Abertawe, er mwyn deall mwy am sut bydd y datblygiad cyffrous hwn yn hybu arloesi a thwf busnes yn sectorau cynyddol Technoleg Feddygol a Thechnoleg Chwaraeon.

Dan arweiniad Prifysgol Abertawe, ac mewn partneriaeth â Chyngor Abertawe, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Cydweithrediad Rhanbarthol ar gyfer Iechyd (ARCH) a phartneriaid allweddol yn y sector preifat, mae’r prosiect Campysau yn esiampl berffaith o gydweithio rhwng busnesau, academia a’r llywodraeth. Mae’r prosiect yn rhoi pwyslais ar y sectorau gwyddor bywyd, iechyd a llesiant, a chwaraeon, ac yn cael ei gyflawni mewn dau gam ar ddau safle, yn Singleton a Threforys yn Abertawe. Bydd y prosiect yn creu dros 1,000 o swyddi ac mae’n werth mwy na £150m i’r economi ranbarthol dros y 10 mlynedd nesaf.

Fel rhan o bortffolio’r Fargen Ddinesig o naw prosiect a rhaglen, mae’r prosiect Campysau wedi sicrhau £15m o gyllid gan y llywodraeth ac wedi cael sêl bendith Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ym mis Rhagfyr 2021.

Bydd cam un, a fydd yn defnyddio cyllid y Fargen Ddinesig, yn darparu 2000m2 o ofod ymchwil ac arloesi pwrpasol ym Mharc Chwaraeon Lôn Sgeti ar Gampws Singleton Prifysgol Abertawe. Bydd hyn yn sefydlu amgylchedd sy’n cefnogi’r gwaith o ddatblygu, profi a gwerthuso technolegau meddygol, iechyd, llesiant a chwaraeon, yn ogystal â phartneriaethau masnachol. Bydd hefyd yn cynnwys adnewyddu adeilad presennol yn Ysbyty Treforys, lle bydd Sefydliad Gwyddorau Bywyd 700m2 ar gyfer cydweithio masnachol ac academaidd ochr yn ochr ag ymchwil a datblygu clinigol.

Pan fydd y cam cyntaf wedi’i gwblhau, bydd yn datgloi’r potensial i ddatblygu ac ehangu’r ddau safle yn sylweddol dros y degawd nesaf, a fydd yn ategu lle blaenllaw’r rhanbarth ym meysydd iechyd, chwaraeon, a gwyddoniaeth, ac yn ysgogi datblygiad economaidd.

Dywedodd y Cynghorydd Rob Stewart, Cadeirydd Cyd-bwyllgor Bargen Ddinesig Bae Abertawe, “Rydym yn falch i groesawu Vaughan Gething AS i Brifysgol Abertawe i’w ddiweddaru ynghylch y prosiect Campysau cyffrous, a’r trawsnewid rhyfeddol sy’n digwydd ar hyd a lled Abertawe.

“Bydd y prosiect Campysau yn creu dros 1,000 o swyddi â chyflog da yn y sector gwyddor bywyd ac iechyd, a fydd yn rhoi hwb i’r economi ac yn helpu i ddenu buddsoddiad ychwanegol sylweddol. Ynghyd â’r synergedd o ran prosiect Pentre Awel yn Llanelli, bydd y prosiect hwn yn adeiladu ar ein harbenigedd mewn llesiant ac arloesi clinigol, trwy helpu i atal afiechyd a gwella ansawdd bywyd ledled y rhanbarth.”

Ychwanegodd Gweinidog Economi Llywodraeth Cymru, Vaughan Gething “Roedd yn wych ymweld â Phrifysgol Abertawe i glywed mwy am sut bydd y buddsoddiad sylweddol ni’n ei wneud fel rhan o Fargen Ddinesig Bae Abertawe yn gwella ymhellach rôl flaenllaw Cymru o ran technolegau meddygol uwch a gwyddoniaeth.

“Mae pwyslais clir gan Lywodraeth Cymru ar greu dyfodol economaidd cryfach, tecach, a gwyrddach.

Rydym am i Gymru fod yn wlad sydd yn arwain y ffordd wrth arloesi mewn technolegau newydd a fydd o fudd i bobl yn eu bywydau bob dydd.

“Rydym yn hyderus bydd y prosiect newydd cyffrous hwn yn ein helpu i gyflawni’r uchelgais honno drwy gefnogi busnesau i fanteisio ar gysylltiadau â’r byd academaidd, gan eu helpu i ddod ag ymchwil sy’n flaengar ar lefel fyd-eang allan o’r labordai a diwydiant ac i gymdeithas, a fydd yn fuddiol i’n pobl a’n heconomi.”

Meddai’r Athro Keith Lloyd, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Abertawe “Credwn fod prosiect Campysau yn enghraifft wych o sut gall buddsoddi yn y sector cyhoeddus ysgogi twf enfawr yn y sector preifat.

“Yn y gorffennol mae’r Brifysgol wedi bod yn amlwg o ran dod ag academyddion, y GIG a phartneriaid diwydiannol at ei gilydd i gefnogi twf mewn cwmnïau technoleg feddygol. Bydd y prosiect hwn yn adeiladu ar y cryfderau hynny er mwyn ysgogi maes twf arbenigol yn Abertawe yn y sector technoleg chwaraeon, a fydd yn gwella iechyd a chyfoeth y gymuned ranbarthol.”

Yn ôl Mark Hackett, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe “Ni ellir tanbrisio gwerth ymchwil a datblygiad i’r economi iechyd yn rhanbarth Bae Abertawe.

“Nid yn unig y mae hyn yn denu swyddi a buddsoddiad o safon i’r ardal, ond mae’n creu cyfleoedd cyffrous i staff a chleifion fod ar flaen y gad mewn datblygiadau cyffrous a thriniaethau arloesol.

“Fel bwrdd iechyd rydym yn falch iawn o allu darparu rhan allweddol o’r prosiect hwn ar ein safle yn Ysbyty Treforys, gan ddod â’r ymchwil flaengar hon i ganol gofal iechyd.”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.