8.7 C
Llanelli
Thursday, February 12, 2026
Home Other areas Cardiff Cau ffyrdd a chyngor teithio ar gyfer Supercross yn Stadiwm Principality ar...

Cau ffyrdd a chyngor teithio ar gyfer Supercross yn Stadiwm Principality ar 8 Hydref

0
5347
Screenshot 2022 05 24 at 14.37.13
Screenshot 2022 05 24 at 14.37.13

Gyda rownd gyntaf Pencampwriaethau Supercross FIM yn cael ei chynnal yn Stadiwm Principality ar 8 Hydref, bydd Heol y Porth yng nghanol y ddinas ar gau rhwng 3pm a 10pm ar 8 Hydref i ganiatáu i’r rhai sy’n mynychu’r digwyddiad fynd i mewn a gadael y stadiwm yn ddiogel.

Cau ffyrdd

Gyda gatiau Stadiwm Principality yn agor am 3.30pm ar gyfer y digwyddiad a daw i ben am 9pm, bydd Heol y Porth ar gau’n gyfan gwbl rhwng 3pm a 10pm.


Rheolir mynediad i’r Ganolfan Ddinesig drwy’r dydd. Caniateir mynediad yn unig i barcio ar gyfer y digwyddiad, rhywfaint o barcio ar gyfer cymudwyr, llwytho a mynediad i feysydd parcio preifat.

Ymhlith y ffyrdd bydd hyn yn effeithio arnynt mae Rhodfa’r Brenin Edward VII, Rhodfa’r Amgueddfa, Heol Neuadd y Ddinas, Heol y Coleg a Heol Gerddi’r Orsedd.

Trenau

Dydd Sadwrn 8 Hydref – gwasanaeth trefnau cyfyngedig iawn, peidiwch â theithio ar drên

Bydd y rhan fwyaf o wasanaethau Trafnidiaeth Cymru ar draws rhwydwaith Cymru a’r Gororau yn cael eu hatal dros dro ar 8 Hydref oherwydd y gweithredu diwydiannol cenedlaethol parhaus.

Dyw Trafnidiaeth Cymru ddim yn rhan o’r gweithredu diwydiannol yma, ond o ganlyniad i’r anghydfod rhwng undebau a Network Rail, fydd Trafnidiaeth Cymru ddim yn gallu gweithredu nifer o wasanaethau rheilffordd ar isadeiledd Network Rail.

Bydd yr unig wasanaethau fydd yn gweithredu ar reilffyrdd craidd y cymoedd yn ne Cymru a gwennol o Gaerdydd i Gasnewydd, gydag un trên yn gweithredu bob awr i bob cyfeiriad, rhwng 07:30 a 18:30.

Ni fydd unrhyw wasanaethau Trafnidiaeth Cymru eraill ledled rhwydwaith Cymru a’r Gororau yn gallu gweithredu.

Bydd gwasanaethau trên yn gweithredu rhwng Caerdydd Canolog a Rhymni, Treherbert, Aberdâr a Merthyr Tudful mewn gwasanaeth bob awr i bob cyfeiriad rhwng 07:30 a 18:30.

Atgoffir cwsmeriaid fe fydd capasiti trafnidiaeth ffordd cyfyngedig iawn rhwng Radur a Chaerdydd cyn 07:30 ac ar ôl 18:30, pan na all Trafnidiaeth Cymru weithredu trenau trwy Landaf a Cathays.

Am fwy o wybodaeth ewch i www.tfw.cymru

Parcio ar Ddiwrnod Digwyddiadau yn y Ganolfan Ddinesig

Cyrraedd yno: Gadewch wrth Gyffordd 32 yr M4, ewch tua’r de ar yr A470 i ganol y ddinas a dilyn yr arwyddion i’r ganolfan ddinesig.

Cost: £15 yn daladwy ar y diwrnod yn y maes parcio – mae taliadau cerdyn hefyd ar gael nawr.

Amseroedd parcio: Bydd y maes parcio yn agor am 8am ac yn cau am hanner nos. 

Parcio ar ddiwrnod y Digwyddiad yn y Ganolfan Ddinesig (Bysus)

Mae £25 yn daladwy ar y diwrnod (arian parod yn unig) 

Amseroedd parcio: Bydd y maes parcio yn agor am 8am ac yn cau am hanner nos. 

Parcio a Theithio i’r Digwyddiad

Bydd y cyfleuster parcio a theithio ar gyfer y digwyddiadau hyn ym maes parcio Neuadd y Sir ym Mae Caerdydd, gyda’r man casglu a gollwng ar Sgwâr Callaghan

Mae’r cyfleuster yn hawdd i’w gyrraedd o’r M4, drwy adael wrth gyffordd 33, a theithio i lawr y ffordd gyswllt (A4232).

Bydd bysiau’n rhedeg i ganol y ddinas ac oddi yno  bob 10 munud. Cost: £10 yn daladwy ar y diwrnod – mae taliadau cerdyn ar gael nawr hefyd.

Mae’r maes parcio’n agor am 9.00am a bydd y bws cyntaf yn gadael am 9.10am.  Bydd y bws olaf o ganol y ddinas am 10pm a bydd y maes parcio’n cau am 10.30pm.  

Parcio ar ddiwrnod y Digwyddiad yng Ngerddi Sophia

Gerddi Sophia (ceir)

(Tua 0.5 milltir o gerdded i Stadiwm Principality, Gât 2).

Parcio ar gyfer y Digwyddiad yng Ngerddi Sophia

Cyrraedd yno: Gadewch wrth gyffordd 32 yr M4.

Cost: £15 yn daladwy ar y diwrnod yn y maes parcio – mae taliadau cerdyn ar gael nawr hefyd.

Amseroedd parcio: Bydd y maes parcio yn agor am 8.00am ac yn cau am hanner nos.

Sylwer:  Gadewir pob cerbyd ar y safle ar risg y perchennog. Ni fydd Cyngor Caerdydd yn gyfrifol am unrhyw ladrad neu ddifrod i geir nac i eiddo personol. Cyflwynir dirwy i unrhyw gerbydau sy’n cael eu gadael yn y maes parcio ar ôl yr amser cau.

Bws

Bysiau lleol:

Caiff gwasanaethau bws eu dargyfeirio tra bydd ffyrdd canol y ddinas ar gau

Ewch i wefan y gweithredwr bws perthnasol i gael rhagor o wybodaeth am eich llwybrau bws penodol.

Ar gyfer gwasanaethau Stagecoach, ewch i:   Croeso i Stagecoach (stagecoachbus.com)

Ar gyfer gwasanaethau Bws Caerdydd, ewch i: https://www.cardiffbus.com/principality-stadium

Am ragor o wybodaeth am wasanaethau NAT, ewch i: https://www.natgroup.co.uk/

National Express:
 
Bydd bysus National Express yn defnyddio Gerddi Sophia fel yr arfer.   

Allwch chi feicio neu gerdded?

Gall y rheini sy’n byw yng Nghaerdydd feicio neu gerdded. Mae ymchwil yn dangos bod 52% o’r teithiau car ym mhrifddinas Cymru yn llai na 5km o hyd.  Mae hwn yn bellter y gellir ei feicio yn braf mewn 20 munud.

Gwyddom hefyd fod 28% o drigolion Caerdydd nad ydynt yn beicio ar hyn o bryd yn dymuno gwneud hynny.

Pan fo tagfeydd ar y ffyrdd, mae hyn yn gwneud beicio yn ddewis mwy atyniadol fyth gan y byddai teithio ar feic yn gynt na char ar yr oriau brig neu yn ystod digwyddiadau mawr.

Parcio i Siopwyr

Argymhellir i siopwyr ddefnyddio’r safleoedd Parcio a Theithio penodol ym Mhentwyn neu Neuadd y Sir. Neu mae meysydd parcio ar gael yng nghanol y ddinas hefyd: Meysydd Parcio Heol y Gogledd; Canolfan Siopa Dewi Sant; John Lewis; Canolfan Siopa Capitol ac NCP (Stryd Adam, Plas Dumfries a Heol y Brodyr Llwydion)

Parcio i Bobl Anabl

Argymhellir bod gyrwyr anabl yn defnyddio Gerddi Sophia. Mae lleoedd parcio i bobl anabl hefyd ar gael mewn meysydd parcio preifat amrywiol.

Gweler argaeledd ar wefannau unigol.

Tacsis

Ni fydd y digwyddiadau hyn yn effeithio ar safle tacsis Heol Eglwys Fair (y tu allan i Dŷ Fraser).


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.