Cogyddion ifanc dawnus o Gymru’n paratoi ar gyfer Cwpan y Byd Coginio

0
350
Junior team smaller min
Junior team smaller min

Bydd tîm o gogyddion ifanc dawnus yn chwifio baner Cymru gyda balchder yng Nghwpan y Byd Coginio yn Lwcsembwrg ym mis Tachwedd.

Bydd Tîm Coginio Ieuenctid Cymru yn cystadlu yn erbyn 15 tîm arall o bob rhan o’r byd yn yr ornest goginio fawreddog, a gynhelir rhwng Tachwedd 26 a 30.

Mae dwy elfen wahanol i’r gystadleuaeth: cegin boeth Bwyty’r Cenhedloedd lle mae’n rhaid i dimau baratoi pryd tri chwrs i 70 o bobl a ‘Bwrdd Tân’ lle bydd y timau’n paratoi pedwar math gwahanol o fwyd bys a bawd oer a phoeth; platiaid oer, Nadoligaidd, o bysgod neu fwyd môr; prif gyrsiau poeth a phwdin i 12 o bobl.

Bydd Cymru yn cyflwyno ei ‘Bwrdd Tân’ ddydd Sul, Tachwedd 27 cyn mynd i mewn i’r gegin boeth y dydd Mawrth wedyn.

Rheolwr Tîm Coginio Ieuenctid Cymru yw Michael Evans, darlithydd ar gampws Grŵp Llandrillo Menai yn Llandrillo-yn-Rhos a’r hyfforddwr yw Danny Burke, cydberchennog Olive Tree Catering, Runcorn a chyn gapten Tîm Coginio Hŷn Cymru.

Capten y tîm yw Calum Smith sy’n chef cynnyrch crwst mewn ysgol breifat yn Amwythig, a’r aelodau eraill yw Harry Paynter-Roberts, sous chef yn y Carden Park Hotel and Spa, ger Caer, Sion Hughes, pen-cogydd yn The Spa at Carden Park Hotel, Stephanie Belcher, chef de partie yn Coast, Saundersfoot, Harry Osborne, o’r Quay Hotel and Spa, Deganwy a Jay Rees, sy’n astudio am radd gyda Grŵp Llandrillo Menai. Mae Sion a Harry Osborne prif gogydd l cystadleuaeth Cogydd Ifanc Cymru cyn hyn.

Aelodau’r garfan a fydd yn cefnogi’r tîm yn Lwcsembwrg yw Amira Milner o Signatures Restaurant, Conwy, Heather Spencer, commis chef yn y Links Hotel, Llandudno a Pippa Taylor, sy’n gwneud gradd yn y Celfyddydau Coginio ar gampws Grŵp Llandrillo Menai yn Llandrillo-yn-Rhos.

“Mae yna gyfuniad da o sgiliau, gwybodaeth ac ieuenctid yn y garfan,” meddai Michael. “Mae eu datblygiad dros y 12 mis diwethaf wedi bod yn wych ym mhob ymarfer ac maen nhw’n codi’r safon o hyd o ran eu hymdrech a’r prydau y maen nhw’n eu cynhyrchu. 

“Rydyn ni’n trefnu cyfres o benwythnosau hyfforddi a phrydau  ymarfer er mwyn perffeithio’r prydau yn y cyfnod cyn Cwpan y Byd Coginio.

“Ein cenhadaeth yw dal i ddatblygu cogyddion ifanc yng Nghymru a fydd, gobeithio, yn symud ymlaen i Dîm Coginio Uwch Cymru yn y dyfodol.””

Dywedodd Graham Tinsley, MBE, cyfarwyddwr coginio Cymdeithas Goginio Cymru: “Mae gan y tîm ieuenctid botensial mawr oherwydd mae’r cogyddion yn ymroddedig iawn, yn ymarfer yn galed ac wedi creu prydau gwych.

“Maen nhw’n cydweithio’n dda iawn o dan arweiniad Mike, sy’n drefnydd da, a Danny, sy’n gogydd ardderchog gyda llawer o brofiad o gystadlu.”

Noddir Cymdeithas Goginio Cymru gan Bwyd a Diod Cymru, Castel Howell, Churchill, Major International, Dick Knives, MCS Tech Products, Hybu Cig Cymru, GrŵpLlandrillo Menai, Cwmni Hyfforddiant Cambrian, Roller Grill ac Ecolab.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here