7.9 C
Llanelli
Thursday, March 19, 2026
Home Events Crochenwaith Campus

Crochenwaith Campus

0
373
image011
image011

Mae Ceramica Botanica yn ddathliad o grochenwaith a serameg cyfoes wedi’u gwneud â llaw o bob rhan o dde Cymru a thu hwnt.

Bydd y digwyddiad yn cael ei chynnal yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ar ddydd Sadwrn a dydd Sul Hydref 29-30.

Bydd yna 27 o grochenwyr yn mynychu, felly dyma gyfle gwych i gwrdd â nhw a darganfod sut y maent yn creu eu gwaith.

Cewch weld amrywiaeth o waith, o nwyddau ymarferol i’r cartref i gerfluniau addurniadol.  Mae’r rhain yn cael eu gwneud gan ddefnyddio gwahanol dechnegau ac offer, megis troel y crochenydd a gan law.

Wedi’i leoli yn y Tŷ Gwydr Mawr syfrdanol dros y penwythnos cyfan, dewch i fanteisio ar y cyfle i ddarganfod serameg ymarferol ac addurniadol at ddant a chyllideb pawb, gan hefyd dechrau eich siopa Nadolig – gan brynu’n uniongyrchol o’r gwneuthurwyr.

Grŵp o grochenwyr a seramegyddion yw South Wales Potters, ac mae’r aelodau’n cynnwys crochenwyr, cerflunwyr a myfyrwyr, yn ogystal â chrochenwyr hobi a selogion.  Bydd y digwyddiad yn rhoi’r cyfle i arddangos amrywiaeth o’u gwaith, gyda’r cyfle i weld gwaith serameg gan wneuthurwyr profiadol yn ogystal â thalent newydd sy’n dod i’r amlwg.

Mae’r digwyddiad wedi’i cynnwys yn nhâl mynediad arferol yr Ardd Fotaneg ac mae’r Ardd ar agor o 10yb hyd at 6yh.

Am fwy o wybodaeth ar South Wales Potters, ewch i’w gwefan: https://www.southwalespotters.org.uk/


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.