8.1 C
Llanelli
Sunday, March 1, 2026
Home Local News Carmarthenshire News Brechu plant ifanc rhag y ffliw yn flaenoriaeth allweddol i feddygon teulu...

Brechu plant ifanc rhag y ffliw yn flaenoriaeth allweddol i feddygon teulu yr hydref hwn

0
434
104897083 flu5 min
104897083 flu5 min

Bydd Meddygfeydd Teulu teulu ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro yn gwahodd pob plentyn 2 neu 3 oed (ar 31 Awst 2022) i gael eu brechlyn chwistrell trwyn ffliw blynyddol yr hydref hwn.

Gall plant ifanc fynd yn sâl iawn gyda ffliw. Mae plant dwy a thair oed yn grŵp blaenoriaeth oherwydd nid yn unig y mae plant o’r oedran hwn yn lledaenwyr ffliw ond maen nhw hefyd yn un o’r grwpiau sydd fwyaf mewn perygl o salwch difrifol a mynd i’r ysbyty.

Dywedodd Dr Joanne McCarthy, Dirprwy Gyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Firws y ffliw sy’n achosi’r ffliw. Gall fod yn salwch annymunol iawn i blant a hefyd arwain at broblemau difrifol, fel broncitis a niwmonia.

“Mae’r pandemig wedi ein gwneud ni’n llawer mwy ymwybodol bod brechu yn achub bywydau ac yn lleihau derbyniadau i’r ysbyty. Efallai na fydd brechiad yn atal eich plentyn rhag dal y ffliw, ond mae’n ei gwneud yn llawer llai tebygol y bydd eich plentyn yn ddifrifol wael neu angen mynd i’r ysbyty.”

Mae’r brechlyn ffliw chwistrell trwyn i blant yn ddiogel ac yn effeithiol a chaiff ei gynnig bob blwyddyn i blant i helpu i’w hamddiffyn rhag y ffliw.

Os yw’ch plentyn rhwng 6 mis a 2 oed a bod ganddo gyflwr iechyd hirdymor sy’n ei wneud mewn mwy o berygl o gael y ffliw, mae hefyd yn gymwys ond bydd yn cael cynnig pigiad brechlyn ffliw yn lle’r chwistrell trwyn.

Arhoswch i’ch meddygfa gysylltu â chi a gwnewch bob ymdrech i gadw’r apwyntiad a roddir.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am frechiadau, gallwch ofyn i’ch meddygfa neu weithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill am gyngor. Mae rhagor o wybodaeth hefyd ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru https://phw.nhs.wales/fluvaccine.

Ar ôl cael eu brechu, efallai y bydd rhai plant a phobl ifanc yn cael tymheredd, yn teimlo’n flinedig, yn cael cur pen, yn cael poen yn y cyhyrau neu’n cael llai o archwaeth am ddiwrnod neu ddau. Gall y chwistrell trwyn achosi’r trwyn i redeg neu wedi’i rwystro a gall y pigiad adael braich ddolurus. Mae adweithiau eraill yn llai cyffredin.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am frechlynnau ffliw, gan gynnwys eu cynnwys a sgil-effeithiau posibl, yn www.medicines.org.uk/emc. Rhowch enw’r brechlyn yn y blwch chwilio. Enw brand y brechlyn ffliw chwistrell trwyn sydd ar gael yn y DU yw Fluenz Tetra


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.