17.9 C
Llanelli
Friday, August 28, 2026
Home Events Cyfle i fwynhau teithiau arswydus, dathliadau Celtaidd a llawer mwy yn ystod...

Cyfle i fwynhau teithiau arswydus, dathliadau Celtaidd a llawer mwy yn ystod Calan Gaeaf a gwyliau hanner tymor eleni

0
547
CHSamhain min
CHSamhain min

Mae gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro dri atyniad i ymwelwyr sy’n cynnal digwyddiadau ar thema Calan Gaeaf dros yr hanner tymor hwn, gyda chyfres o brofiadau arswydus ar gael i bawb o bob oed.

Mae gan Castell Caeriw, Pentref Oes Haearn Castell Henllys ac Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc amrywiaeth o ddigwyddiadau Calan Gaeaf ar y gweill, gan gynnwys teithiau arswydus, sesiynau adrodd straeon, dathliadau Celtaidd a gweithgareddau celf a chrefft.

Yng Nghastell Caeriw, bydd nifer o ddigwyddiadau yn cael eu cynnwys fel rhan o’r pris mynediad arferol rhwng 27 Hydref a 6 Tachwedd. Bydd y digwyddiadau hyn yn cynnwys Taith Hud a Lledrith Perlysieuol ar 27 Hydref, a Chwedlau Pentan ar 29 a 30 Hydref. Ydych chi’n ddigon dewr i fentro drwy ddrysau’r Felin Arswydus a/neu ar hyd y Llwybr Bwganod Brain rhwng 29 Hydref a 6 Tachwedd?

Ar 1 Tachwedd, bydd cyfle i blant tair oed a hŷn fwynhau Hwyl a Sbri Calan Gaeaf wrth i Fairy Blackberry ac Incy Wincy Spider gynnal gweithdy rhyngweithiol llawn gemau, dawnsio, straeon, canu a hwyl. Mae’n rhaid i chi archebu lle.

Capsiwn: Dewch i greu torch helyg a chlai arswydus ar gyfer Calan Gaeaf yn Oriel y Parc neu dynnu llun yn ystod Arddangosfa Coetir yr Hydref a gynhelir rhwng dydd Sadwrn 22 Hydref a dydd Sul 6 Tachwedd

Hefyd, bydd Gweithdy Adrodd Straeon: Room on the Broom yn cael ei gynnal lle daw llyfr lluniau hudolus Julia Donaldson yn fyw o flaen eich llygaid. Hefyd, bydd casgliad o straeon a gemau poblogaidd eraill a fydd yn siŵr o danio dychymyg y plant! Cynhelir tair sesiwn awr o hyd ddydd Iau 3 Tachwedd a dydd Gwener 4 Tachwedd. Bydd y sesiwn gyntaf yn dechrau am 10am, yr ail am 12pm a’r olaf am 2pm. Argymhellir y sesiynau hyn ar gyfer plant rhwng 4 ac 8 oed. Rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn.

I weld y prisiau, yr amseroedd agor ac i gadw eich lle, ewch i www.arfordirpenfro.cymru/castell-caeriw.

Mae’r gyfres o ddigwyddiadau Calan Gaeaf ym Mhentref Oes Haearn Castell Henllys yn dechrau gyda Henllys Hunllefus. Dyma gyfle i ymwelwyr fwynhau taith gerdded hydrefol drwy’r coetir hudolus cyn cyrraedd y pentref ei hun, lle byddant yn cwrdd ag ysbrydion yr Oes Haearn. Gallwch hefyd ddilyn llwybr arswydus y pwmpenni am £2 ychwanegol. Mae’r gweithgareddau dyddiol yn cynnwys taith dywys, arddangosiad crefftau/sgiliau hynafol a sesiwn adrodd straeon.

Bydd Henllys Hunllefus yn cael ei gynnal rhwng 10am a 4.30pm o ddydd Sadwrn 22 tan ddydd Gwener 28 Hydref. Ar ddydd Sul 23 a dydd Sul 30 Hydref, bydd y diwrnod yn cynnwys Sesiwn Dawel, pan na fydd unrhyw weithgareddau swnllyd yn cael eu cynnal rhwng 10am a 1pm.

Bydd y Dathliad Samhain yn rhoi cipolwg i chi ar sut yr oedd pobl yr Oes Haearn yn dathlu’r ŵyl Geltaidd hynafol hon gyda gweithgareddau fel peintio wynebau, crefft cynnau tân, gwneud canhwyllau cwyr gwenyn a gwrando ar hanesion a chaneuon yr hen oes o amgylch tân y tŷ crwn. Wrth i’r haul fachlud, byddwch yn barod i gael eich syfrdanu gan berfformiad tân Damazo Inferno cyn iddo roi’r dyn gwiail ar dân! Cynhelir y Dathliad Samhain ddydd Sadwrn 29 Hydref rhwng hanner dydd a 5pm.

Bydd Taith Ysbrydion Henllys Hunllefus, sy’n addas i deuluoedd, yn eich cyflwyno i rai o greaduriaid a chymeriadau arswydus a hudolus llên gwerin Cymru wrth i chi deithio o amgylch y coetiroedd a’r Pentref. Ar ddiwedd eich taith, bydd cyfle i’r plant gael peintio eu hwynebau a chwarae ‘cast neu geiniog’ o gwmpas y pentref.

I gael y manylion llawn, yr amseroedd agor ac i archebu eich lle ar gyfer y digwyddiadau uchod, ewch i www.arfordirpenfro.cymru/castell-henllys/.

Capsiwn: Ydych chi’n ddigon dewr i fentro drwy ddrysau’r Felin Arswydus yn Castell Caeriw rhwng 29 Hydref a 6 Tachwedd?

Ddydd Mercher 2 Tachwedd, bydd Kate Evans yn cynnal gweithdy Crefftau Arswydus Calan Gaeaf yn Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc, Tyddewi. Dyma gyfle i’r plant fynd ati i greu torch helyg a chlai arswydus ar gyfer Calan Gaeaf. Mae’r torchau hyn yn addas i’w hailddefnyddio, i’w hailgylchu ac yn ystyriol o adar, a byddant yn edrych yn wych ar ddrysau, mewn ffenestri, neu ar goed! Rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn. Bydd y sesiwn gyntaf yn dechrau am 10.30am, yr ail am 12.30pm a’r olaf am 2pm. Mae’n rhaid i chi archebu lle.

Bydd y Llwybr Arswydus Calan Gaeaf yn rhoi cyfle i blant chwilio o gwmpas y ganolfan a’r gerddi i ddod o hyd i’r arteffactau a’r cliwiau arswydus er mwyn datrys y pos a hawlio gwobr. £2 y plentyn, gyda gwobr arbennig!

Hefyd, bydd Arddangosfa Coetir yr Hydref yn cael ei chynnal rhwng dydd Sadwrn 22 Hydref a dydd Sul 6 Tachwedd – cyfle gwych i dynnu llun cofiadwy gyda theulu a ffrindiau ymysg y coed â’r dail. Cofiwch rannu eich lluniau ag Oriel y Parc ar Facebook, Twitter neu Instagram @OrielyParc.

Cofiwch ymweld â’r amrywiaeth o arddangosfeydd am ddim sydd ar gael, gan gynnwys Ar Eich Stepen Drws yn Oriel Amgueddfa Genedlaethol Cymru.

I gael yr amseroedd agor ac i archebu eich lle ar gyfer y digwyddiadau uchod, ewch i www.arfordirpenfro.cymru/oriel-y-parc.

I weld holl ddigwyddiadau’r Parc Cenedlaethol, gan gynnwys y Diwrnod Archaeoleg ar 5 Tachwedd, ewch i www.arfordirpenfro.cymru/digwyddiadau/list/.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.