11.7 C
Llanelli
Tuesday, March 17, 2026
Home Newyddion Lle DDIM YN RHY HWYR I SEFYDLU YMCHWILIAD COVID PENODOL I GYMRU

DDIM YN RHY HWYR I SEFYDLU YMCHWILIAD COVID PENODOL I GYMRU

0
353
Rhun ap Iorwerth MS
Rhun ap Iorwerth MS

Plaid Cymru’n ymateb i gydnabyddiaeth Cadeirydd ymchwiliad Covid na fydd yn bosib ystyried pob penderfyniad a wneir yng Nghymru fel rhan o ymchwiliad y DU

Mae Plaid Cymru wedi ymateb i’r newyddion bod cadeirydd ymchwiliad Covid y DU wedi dweud nad yw’r ymchwiliad y bydd hi’n ei arwain yn “gallu ymdrin â phob penderfyniad” yn ymwneud â Chymru.

Ar ddiwrnod cyntaf yr ymchwiliad i Covid, meddai’r Farwnes Hallet, gan gyfeirio at y galwadau am graffu ar benderfyniadau a wnaed yng Nghymru drwy gydol y pandemig, “mae’n rhaid i mi bwysleisio, allwn ni ddim ymdrin â phob mater, allwn ni ddim ymdrin â, na galw pob tyst, rydyn ni’n mynd i orfod canolbwyntio ar y penderfyniadau mwyaf arwyddocaol a’r pwysicaf.”

Nododd y Farwnes Hallet hefyd y byddai’n dal yn bosibl ar gyfer ymchwiliad penodol i Gymru, gan ddweud: “Os caiff ymchwiliad Cymreig ei sefydlu, byddaf yn gweithio gyda nhw ac yn cydweithredu hyd eithaf fy ngallu i sicrhau ein bod yn ymdrin â’r holl faterion y byddai pobl Cymru yn dymuno eu gweld yn derbyn sylw.”

Pwysleisiodd y Farwnes Hallet na fyddai’n benderfyniad iddi ei wneud, a’i bod yn “hollol niwtral” ar y cwestiwn.

Mae Rhun ap Iorwerth AS, llefarydd iechyd a gofal Plaid Cymru, wedi cefnogi’r galwadau am ymchwiliad penodol i Gymru ers dechrau Covid ac wedi cefnogi’r un galwadau gan y grŵp Covid Bereaved Families for Justice Cymru.

Wrth ymateb i sylwadau’r Farwnes Hallett, dywedodd Rhun ap Iorwerth:

“Mae cadarnhad Cadeirydd Ymchwiliad Covid y DU na fydd hi’n gallu edrych ar yr holl faterion perthnasol yng Nghymru, na chwaith yn craffu pob penderfyniad gafodd ei wneud yng Nghymru, yn cadarnhau’r angen am ymchwiliad penodol i Gymru.  

“Nid yw hyn yn tawelu meddwl y rhai sy’n parhau i gael eu cythruddo gan ymdrech Llywodraeth Llafur Cymru i osgoi craffu.

“Mae Plaid Cymru wedi galw ers dyddiau cynnar y pandemig i benderfyniadau a wnaed yng Nghymru – da a drwg – gael eu craffu yng Nghymru gan ymchwiliad sy’n benodol i Gymru. Mae’n rhaid i Lywodraeth Lafur Cymru gymryd perchnogaeth o’u penderfyniadau.

“Ond mae amser yn dal i fod i Lywodraeth Cymru newid ei meddwl, ac i roi i’r teuluoedd mewn profedigaeth yr hyn y maen nhw’n ei haeddu. Sefydlwch ymchwiliad Covid i Gymru nawr, cyn iddi fod yn rhy hwyr.”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.