16.7 C
Llanelli
Tuesday, September 22, 2026
Home Newyddion Lle Ehangu’r Cynnig Gofal Plant wrth i wasanaeth digidol newydd gael ei lansio

Ehangu’r Cynnig Gofal Plant wrth i wasanaeth digidol newydd gael ei lansio

0
461
09.11.22 mh Darling Buds Nursery Ministers Visit 34 min scaled
09.11.22 mh Darling Buds Nursery Ministers Visit 34 min scaled

Mae gwasanaeth digidol cenedlaethol newydd wedi’i lansio, a fydd yn symleiddio’r Cynnig Gofal Plant i rieni a darparwyr gofal plant.

Mae’r Cynnig hefyd wedi’i ehangu i fwy o deuluoedd, a gall rhieni sydd mewn addysg a hyfforddiant nawr wneud cais am hyd at 30 awr o addysg gynnar a gofal plant wedi’u hariannu gan y llywodraeth ar gyfer eu plant tair a phedair oed.

Ar hyn o bryd mae’r Cynnig Gofal Plant yn cael ei ddarparu gan awdurdodau lleol sy’n defnyddio systemau gwahanol i brosesu ceisiadau rhieni ac i dalu darparwyr am yr oriau sy’n cael eu darparu o dan y Cynnig. Bydd y gwasanaeth digidol cenedlaethol yn disodli’r systemau hyn fel y bydd pob awdurdod lleol, rhiant a darparwr gofal plant yn defnyddio’r un gwasanaeth.

Mae’r platfform digidol cenedlaethol newydd ar gael yn ddwyieithog, ac mae modd mynd ato drwy ddyfeisiau symudol gan gynnwys cyfrifiaduron llechen a ffonau symudol, a bydd yn sicrhau bod rhieni a darparwyr gofal plant ledled Cymru yn cael yr un profiad, ble bynnag y maen nhw’n byw. 

Bydd rhieni sy’n gymwys i ddefnyddio’r Cynnig Gofal Plant o fis Ionawr 2023 yn gallu gwneud cais o hyn ymlaen drwy’r gwasanaeth newydd.

Ni fydd angen i rieni sydd eisoes yn defnyddio’r Cynnig wneud unrhyw beth, ac fe fyddan nhw yn aros o fewn system eu hawdurdod lleol. Ond os ydyn nhw am gael arian drwy’r Cynnig ar gyfer plentyn arall o fis Ionawr 2023, bydd angen iddyn nhw wneud cais drwy’r gwasanaeth digidol cenedlaethol.

Wrth lansio gwasanaeth digidol cenedlaethol y Cynnig Gofal Plant mewn meithrinfa yng Nghaerdydd, dywedodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol:

“Mae ein Cynnig Gofal Plant arloesol yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i rieni ledled Cymru, ac rydyn ni’n chwilio’n barhaus am ffyrdd o ehangu neu wella ein Cynnig. Mae’n bleser gen i gyhoeddi lansio gwasanaeth digidol newydd y Cynnig Gofal Plant. Bydd cael un system genedlaethol yn sicrhau gwasanaeth hwylus, symlach i rieni a darparwyr gofal plant ar draws Cymru. Dw i am ddiolch i bawb yn y sector gofal plant, awdurdodau lleol a rhieni sydd wedi ein helpu i gyflwyno’r gwasanaeth digidol.

“Rydyn ni wedi ymrwymo i gefnogi teuluoedd sy’n gweithio gyda chostau gofal plant, ac mae’n wych gallu cynyddu nifer y teuluoedd sy’n manteisio ar y Cynnig. Dw i’n falch o ddweud bod dros 168 o deuluoedd ychwanegol hyd yma wedi cael eu helpu yn sgil ehangu’r Cynnig. Mae rhoi rhagor o gymorth gyda chostau gofal plant i rieni sy’n ymgymryd ag addysg a hyfforddiant yn adlewyrchu’r gwerth rydyn ni’n ei roi ar gefnogi pobl i wella eu cyfleoedd gwaith drwy ennill cymwysterau, ailhyfforddi neu newid llwybr gyrfa.

Dywedodd Claire Potter, Rheolwr Gweithrediadau Meithrinfa Darling Buds:

“Bydd gwasanaeth digidol newydd y Cynnig Gofal Plant yn cael effaith bositif ar ein lleoliadau, gan fod gennyn ni blant o sawl awdurdod lleol sy’n elwa o’r cyllid. Bydd y gwasanaeth newydd yn golygu bod modd inni ddefnyddio un porthol cenedlaethol i hawlio’r arian, pa awdurdod lleol bynnag sy’n awdurdodi’r trefniant.

Bydd y gwasanaeth hefyd yn cael effaith bositif ar ein rhieni/gofalwyr hefyd, gan y byddan nhw’n gallu defnyddio’r porthol, a gweld yr oriau a gytunwyd ac unrhyw oriau sy’n dal i fod ar gael iddyn nhw. Bydd hyn yn creu proses dryloyw a fydd yn cael gwared ag unrhyw ddryswch, i’r rhieni/gofalwyr ac i ni, yn enwedig pan fydd rhieni yn defnyddio gwasanaeth mwy nag un darparwr gofal plant.”

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol Plant, y Cyng Ash Lister:

“Rydyn ni am i’r broses o wneud cais am le o dan y Cynnig Gofal Plant fod mor syml â phosibl, fel y gall rhieni a theuluoedd sydd angen lle gael gafael yn hawdd ar yr hyn sydd ar gael iddyn nhw. Bydd lansio’r gwasanaeth digidol yn help i symleiddio’r broses gais, a bydd hefyd yn darparu ffordd effeithlon i ddarparwyr y gofal hawlio a derbyn y taliadau.

“Rydyn ni wedi ymrwymo i gefnogi’r Cynnig Gofal Plant, sy’n parhau i helpu’r rheini sydd â gofal plant i ymgymryd â hyfforddiant a gwaith, a lleihau eu costau gofal plant. I’r plant eu hunain, mae mynychu lleoliad gofal plant cofrestredig yn cefnogi eu datblygiad ac yn eu paratoi ar gyfer yr ysgol, gan gynnig cyfleoedd i chwarae, dysgu a chymdeithasu gydag eraill o’r un oed.”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.