8.5 C
Llanelli
Saturday, February 28, 2026
Home hywel dda health board Hwb mawr i gleifion wrth i Uned Llawdriniaethau Dydd ‘uchelgeisiol’ gwerth £20m...

Hwb mawr i gleifion wrth i Uned Llawdriniaethau Dydd ‘uchelgeisiol’ gwerth £20m baratoi i agor ei drysau

0
615
021 Day Surgery min scaled
021 Day Surgery min scaled

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn falch o gyhoeddi agoriad ein Huned Llawdriniaethau Dydd newydd sbon gwerth £20m yn Ysbyty’r Tywysog Philip Llanelli, sy’n hwb mawr i’n hymdrechion i fynd i’r afael â rhestrau aros llawfeddygol ledled y rhanbarth.

Bydd y ddwy theatr newydd, sydd wedi’u darparu diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru, yn agor ddydd Llun 5 Rhagfyr, gan ein galluogi i ddarparu llawdriniaethau i filoedd o gleifion yn gyflymach ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro, yn ogystal â byrddau iechyd cyfagos.

Yn y pen draw, bydd gan y theatrau y gallu i weithredu chwe diwrnod yr wythnos, a byddant yn cwmpasu arbenigeddau gan gynnwys orthopaedeg, llawfeddygaeth gyffredinol, wroleg a llawfeddygaeth fasgwlaidd, er y bydd y gwaith hwn yn cael ei gyflwyno fesul cam.

Mae’r uned wedi’i dylunio’n benodol i leihau’r risg o heintio eraill, gan gynhyrchu llif o aer glân iawn yn yr ystafelloedd llawdriniaethau, yn ogystal â’r ystafelloedd paratoi, yr ystafelloedd anesthetig, y cyfleusterau newid a’r ardal adfer.

Dywedodd Maria Battle, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Ar ran Hywel Dda, mae’n bleser gennyf gyhoeddi agoriad yr Uned Llawdriniaethau Dydd yn Ysbyty’r Tywysog Philip, fel rhan o’n cynllun adfer ehangach i fynd i’r afael yn gyflym â’r rhestrau aros sydd wedi tyfu yn ystod y pandemig, ac sy’n peri pryder mawr i rai o’n trigolion.  Mae hyn yn flaenoriaeth allweddol i’r Bwrdd Iechyd.

“Rydym wedi cymryd y cam uchelgeisiol hwn ar ran ein cymunedau, a hoffwn ganmol yn arbennig y gwaith caled a’r ymrwymiad gan dîm y rhaglen, ein staff clinigol, a chymorth Llywodraeth Cymru a Phartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru, hebddynt ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl.”

Ychwanegodd y llawfeddyg ymgynghorol a’r Cyfarwyddwr Clinigol ar gyfer Gofal wedi’i Drefnu, Mr Ken Harries: “Gyda’r datblygiad newydd cyffrous hwn ar waith, rydym yn ehangu gallu a dyddiau ein theatrau er mwyn bod mor effeithlon â phosibl a thrin cleifion, y mae rhai ohonynt wedi gorfod aros am gyfnodau sylweddol am eu llawdriniaeth.

“Yn y pen draw, bydd y cyfleuster o’r radd flaenaf hwn yn galluogi tua phedair i bum mil o gleifion i gael triniaethau yn yr uned yn flynyddol, ac ynghyd â’r modd yr ydym yn ymdrin ag adferiad, rydym yn gobeithio y bydd hefyd yn denu recriwtiaid y dyfodol.”

Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Gweithredol Datblygu Strategol a Chynllunio Gweithredol, Lee Davies: “Rwy’n falch iawn ein bod yn gallu cyhoeddi agoriad Uned Llawdriniaethau Dydd Ysbyty’r Tywysog Philip er budd ein cleifion a’n cymunedau ehangach, a hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran am eu hymdrech, eu sgiliau, eu cydweledigaeth a’u gwaith caled wrth wneud i hyn digwydd.”

Dywedodd Eluned Morgan, y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: “Mae Llywodraeth Cymru yn falch iawn o fod wedi helpu i ariannu’r uned newydd hon a fydd yn golygu y bydd mwy o bobl yn cael llawdriniaethau yr un diwrnod – gan osgoi’r angen am arosiadau hir yn Ysbyty’r Tywysog Philip. Rydym yn ymwybodol iawn bod llawer o bobl yn aros am lawdriniaethau ac y bydd yr uned newydd hon yn cyflymu’r broses i’r rhai sy’n aros mewn poen, trwy drin miloedd yn fwy o gleifion bob blwyddyn.”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.